Nôd Theatr na nÓg yw i adrodd straeon, a bydd angen straeon arnom ni yn fwy nag erioed wrth inni gamu i fyd diethr, lle byddwn ni’n ysu i wneud synnwyr o'r cyfan.
Rhywbeth sydd wedi’n taro ni wrth i ni mordwyo’r byd newydd ‘ma, yw does dim byd all cymryd lle perfformiadau byw - Mae’n unigryw.
Yn ystod y cyfnod ansicr hyn a dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, rydym ni yn Theatr na nÓg yn estyn ein cariad a'n dymuniadau da i bawb sy’n wynebu yr heriau cyfredol.
Rydyn ni'n sefyll ochr yn ochr â'n ffrindiau, ein cyd-artistiaid. Gyda'r theatrau a'u staff. Gyda'n cynulleidfaoedd, ac yn benodol, y plant ysgol , sy'n ymweld â ni bob hydref gyda'u hathrawon.
Rhaid i ni cadw ati i gysylltu ac i ddal ati i adrodd ein straeon.
Felly rydyn ni'n edrych ymlaen at yr amser pan allwn ni ail-agor ein llyfr stori i'ch difyrru, a'ch swyno - i ail-gysylltu â CHI!
Cymerwch ofal, byddwch yn ddiogel, arhoswch gartref, edrychwch ar ôl eich gilydd, ac edrychwn ymlaen i groesawu chi gyd nôl I’r theatr yn fuan.
Theatr na nÓg