Languages

Goslef (English press release)

To coincide with World Storytelling Day, Theatre Company launches online resource for young children to access original Welsh language stories.

Neath based Theatr na nÓg have launched Goslef to help support children and their parents with their Welsh language skills. Goslef, meaning a soothing tone in Welsh, is a series of Welsh language stories for young children to help immerse them in the words and sounds of the Welsh language.

Due to the pandemic and home-schooling, some parents and children struggled with the Welsh language element of home-schooling. On learning of the challenges, award-winning Theatr na nÓg took the initiative to reach out to Welsh schools to see if they could help. And through this research and collaboration with teachers and theatre professionals, Goslef was created, an online resource of original children's stories, written and read by Theatr na nÓg's collective of creative associates.

"Theatre, in its true essence, is storytelling. We all need stories." Geinor Styles, Theatr na nÓg's artistic director, explained her decision to create Goslef: "As someone who grew up in an English-speaking home and attended Welsh school, I know how important it is for parents to support their children in learning. Home-schooling has tested them this last year. To hear that parents and teachers were worried about how much Welsh language their pupils were hearing, we were compelled to find a creative solution."

Speaking about the online resource Lynne Jones, headteacher at Ysgol Santes Tudful, in Merthyr Tudful, a member of the Company's innovative Artistic Advisory Group, said: "Goslef is perfect, it's not just a tool that can help parents and teachers have a break while children listen to a Welsh language story, but it's also a break for the child from that never-ending screen time, it's a step away into a virus-free world that can help spark their imagination.

"What's unique about Goslef is not only that the stories have originated in the Welsh language, but that the stories themselves are original and fresh, and children deserve new and exciting stories. Whilst our young children can't access live Theatre, they can sit alone or in a group and let an actor's voice take them on a Welsh language adventure. No one in all of Wales does that better than Theatr na nÓg."

To conclude, Geinor Styles added: "We are grateful to the Arts Council for Wales for its commitment to the Welsh language, enabling us to be creative and responsive to this particular call to action. Once again, the pandemic has afforded us the time to help support our audiences and our network of artists to produce innovative work in the Welsh language."

Goslef currently has five stories on its platform, including Alis Wen a Gwynt yr Hebog (Alis Wen and the Flight of the Peregrine) by actress and writer Mali Tudno Jones. Amser i fod yn Llonydd (Time to be Still) by Llinos Daniel, “Bleddyn y Blaidd created by Tom Blumberg and Ioan Hefin reads Gwyn Thomas's Nel y Sbel with kind permission of Jennifer Thomas and Gwasg Gomer. Goslef stories are available to download on Theatr na nÓg's Spotify page.

Image: 

Goslef

Er mwyn cyd-fynd â’r Ŵyl Chwedleua Ryngwladol, mae cwmni theatr yn lansio adnodd i blant ifanc gael mynediad i straeon yn yr iaith Gymraeg.

Mae Theatr na nÓg sydd wedi ei leoli yng Nghastell Nedd wedi lansio Goslef er mwyn cynorthwyo plant a’u rhieni â’u sgiliau yn yr iaith Gymraeg. Ystyr Goslef yw tôn dyner ac mae’n gyfres o straeon yn yr iaith Gymraeg ar gyfer plant ifanc er mwyn eu trochi yng ngeiriau a synau’r iaith.

Yn sgil y pandemig ac addysgu yn y cartref, mae rhai rhieni a phlant wedi cael trafferth dygymod â dysgu’r iaith. Wedi i Theatr na nÓg glywed am yr heriau hyn, penderfynodd y cwmni gysylltu ag ysgolion Cymraeg a cheisio eu cynorthwyo. Yn dilyn ymchwil a chydweithio ag athrawon ac ymarferwyr proffesiynol yn y theatr, cafodd Goslef ei greu ac mae’n adnodd ar-lein o straeon gwreiddiol yn y Gymraeg a ysgrifennwyd ac sy’n cael eu darllen gan gydweithwyr creadigol Theatr na nÓg.

"Yn ei hanfod, adrodd stori yw’r theatr. Mae angen straeon ar bob un ohonom,” meddai Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg. Esboniodd ei phenderfyniad dros greu Goslef: "Fel rhywun gafodd ei magu mewn cartref Saesneg ac a fynychodd Ysgol Gymraeg, rydw i’n gwybod pa mor bwysig yw hi i rieni gynorthwyo eu plant â’u dysgu. Mae dysgu o’r cartref wedi bod yn heriol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Wedi i ni glywed fod rhieni ac athrawon yn poeni am faint o’r Gymraeg roedd eu disgyblion yn ei chlywed, cawsom ein sbarduno i ddod o hyd i ateb creadigol.”

Yn ôl Lynne Jones, Pennaeth Ysgol Santes Tudful ym Merthyr Tudful ac aelod o Grŵp Artistig Ymgynghorol y Cwmni, mae “Goslef yn berffaith ac yn adnodd sydd nid yn unig yn cynorthwyo rhieni ac athrawon i gael seibiant wrth i blant wrando ar y stori ond mae hefyd yn caniatáu i’r plentyn gamu oddi wrth y sgrin am unwaith a chael mynediad i fyd sydd yn sbardun i’w dychymyg.

"Yr hyn sy’n unigryw am Goslef yw nid yn unig y ffaith fod y straeon yn rhai gwreiddiol yn y Gymraeg ond hefyd fod y straeon eu hunain yn ffres a newydd ac mae plant yn haeddu straeon cyffrous. Gan na all ein plant wylio Theatr fyw, gallant eistedd ar eu pennau eu hunain neu mewn grŵp a gadael i lais yr actor eu tywys ar antur yn yr iaith Gymraeg. Nid os neb, yng Nghymru gyfan, yn gwneud hyn yn well na Theatr na nÓg."

I orffen, ychwanegodd Geinor Styles "Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am ei ymroddiad i’r iaith Gymareg sydd yn ein galluogi i fod yn greadigol ac yn adweithiol i’r galw penodol hwn. Unwaith eto, mae’r pandemig wedi caniatau i ni gynorthwyo’n cynulleidfaoedd a’n rhwydwaith o artistiaid er mwyn cynhyrchu gwaith dyfeisgar yn yr iaith Gymraeg.”

Ar hyn o bryd, mae gan Goslef bum stori ar ei blatfform sydd yn cynnwys Alis Wen a Gwynt yr Hebog gan yr actores Mali Tudno Jones, Amser i fod yn Llonydd gan Llinos Daniel, Bleddyn y Blaidd gan Tom Blumberg ac mae Ioan Hefin yn darllen Nel y Sbel gan Gwyn Thomas yn dilyn derbyn caniatâd caredig gan Jennifer Thomas a Gwasg Gomer. Mae straeon Goslef ar gael i’w lawr-lwytho ar dudalen Spotify Theatr na nÓg.

Image: 

Cwmni Theatr yn uno tri lleoliad i gefnogi adfywio’r Gymraeg yng Nghymoedd De Cymru

Mae Theatr na nÓg, cwmni sydd wedi ennill sawl gwobr, ynghyd â thri lleoliad arall wedi sefydlu cydweithrediad newydd sef Y Consortiwm Cymraeg. Y bwriad yw cyflwyno theatr Gymraeg ei hiaith o ansawdd uchel sy’n hygyrch i bawb. Maen nhw’n anelu at gynhyrchu rhaglen i gymunedau gyfranogi ynddi i wella eu sgiliau iaith a hefyd meithrin perthynas â’r celfyddydau a diwylliant ar stepen eu drws.

Ymunodd Theatr Soar ym Merthyr Tudful, Neuadd Les Ystradgynlais, Neuadd y Dref Maesteg ynghyd â Theatr na nÓg i ailgynnau bywiogrwydd a gwerth y lleoliadau hyn yn eu cymunedau. Caiff y Consortiwm newydd ei gefnogi gan Grant Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru. Gan fod canolfannau diwylliannol wedi wynebu’r cyfnod clo, bu’r angen am hyb creadigol oddi fewn i gymunedau’n fwy nag erioed, nid yn unig er mwyn diogelu dyfodol y Gymraeg yn y cymoedd, ond hefyd i gefnogi cymuned ffyniannus y cymoedd y tu hwnt i Bandemig Covid-19.

Esboniodd Geinor Styles, cyfarwyddwr artistig Theatr na nÓg pam fo’r fenter hon mor bwysig ar yr adeg hon: “os ydyn ni am wireddu targed Llywodraeth Cymru o filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n hanfodol ein bod ni’n cefnogi’r holl elfennau sy’n cyfrannu at adfywio’n hiaith a’n diwylliant, ac mae’r lleoliadau hyn yn allweddol i’r llwyddiant hwnnw.

Roedd cydweithredu â thair theatr gymunedol yn teimlo fel partneriaeth naturiol i Theatr na nÓg. Bu’r tair yn hanfodol o ran cyfrannu at gefnogi diwylliant a’r Gymraeg yn eu hardaloedd. Nid yn unig yw’r weledigaeth a rannwn yn ymwneud â chyd-gynhyrchu theatr i ddatblygu cynulleidfaoedd, ond y mae hefyd yn ymwneud â dyfeisio rhaglen ymgysylltu â’r gymuned leol. Hefyd, mae ein cydweithrediad yn ein gosod mewn sefyllfa gref i ymbaratoi at adfywio’r ardaloedd hyn pan ddaw’r cyfnod clo i ben. Bryd hynny cawn ail-ddechrau rhoi bywyd newydd i’r trefi hyn yn dilyn Covid.”
Er bod yr ansicrwydd yn parhau ynghylch pryd fydd y lleoliadau’n ailagor, mae’r Consortiwm yn edrych ymlaen gydag optimistiaeth wrth iddynt gyhoeddi eu cydweithrediad cyntaf, sef cyfieithiad ac addasiad o’r comedi clasurol Shirley Valentine gan Willy Russel. Cafodd y ddrama ei chyfieithu’n wreiddiol gan Manon Eames; yn y fersiwn hon gwelwn Shirley yn cael ei chludo o Lerpwl i Dde Cymru. Roedd yn llwyddiant theatrig poblogaidd pan agorodd yn Eisteddfod Aberystwyth ym 1994, ac y mae’n sicr o ddenu cynulleidfaoedd yn ôl i’r lleoliadau.

Dywedodd Daniel Evans, enillydd Gwobr Olivier a chyfarwyddwr Gŵyl Theatr Chichester y canlynol am y cydweithrediad: “Unwaith yn rhagor, dangosodd Theatr na nÓg fod ganddynt y cydnerthedd i wrthsefyll yr ergydion caled a roddwyd i ddiwydiant y celfyddydau drwy gydol y pandemig. Rwy’n meddwl fod hyn yn sgil edrych ar y rôl maen nhw’n ei chwarae yn y gymuned yn ogystal ag ystyried eu llwyddiannau eu hunain a gweld eu bod yn gallu gwneud gwahaniaeth. Wrth weithio mewn cydweithrediad a phartneriaeth â Soar, y Neuadd Les a Neuadd y Dref Maesteg maen nhw’n wirioneddol gallu helpu’r gymuned i ailadeiladu a ffynnu. Maen nhw hefyd wedi gweld pwysigrwydd y Gymraeg yn eu cymunedau a bod gweithio mewn partneriaeth yn gallu denu cynulleidfaoedd hen a newydd i’r lleoliadau gan ddyfod yn asgwrn cefn i’w cymunedau unwaith yn rhagor.

“Mae’n galonogol i mi hefyd fod Cyngor Celfyddydau Cymru’n cefnogi mentrau a phartneriaethau o’r fath. Mae’r ffaith eu bod yn cydnabod pwysigrwydd diogelu celfyddydau Cymraeg eu hiaith yn ein cymunedau’n argoeli’n dda ar gyfer ein dyfodol.”

Dywedodd Wynne Roberts, cyfarwyddwr Neuadd Les Ystradgynlais: “Y dymuniad wrth galon ein hymrwymiad â’r consortiwm hwn yw bod y broses o greu theatr yn agored i gymunedau Cymraeg eu hiaith. Rydym yn gyffrous o weld sut mae Theatr na nÓg, cwmni cynhyrchu theatr uchel ei barch, yn datblygu syniadau am theatr newydd, gyda phobl leol yn cyfranogi. Mae clywed lleisiau tafodiaith Gymraeg Cwm Tawe ar lwyfan proffesiynol yn beth prin iawn; dyna rywbeth yr ydyn ni’n wirioneddol edrych ymlaen ato.

“Mae ein hymgysylltiad cymunedol yn hen hanes, o gymdeithasau cynnar operatig a drama y 1930au i’r ffilmiau a enillodd wobrau y llynedd, a wnaed â theuluoedd o Syria a sefydliadau cymunedol. Ar ôl cyfnod anodd i lawer o bobl leol heb fynediad at ein gwasanaethau celfyddydol cymunedol, rydyn ni’n gwybod fod yna awch gwirioneddol ac angen dybryd am gyfranogiad yn y celfyddydau ac rydyn ni’n wirioneddol edrych ymlaen at weld sut fydd pobl leol yn ymateb.”

Bu elusen Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn gweithredu Neuadd y Dref Maesteg ers 2015. Mae’r neuadd ar gau ar hyn o bryd ar gyfer ailddatblygu uchelgeisiol gwerth £8m. Dywedodd Hannah Kester, Pennaeth Datblygu Diwylliannol Ymddiriedolaeth Awen am y bartneriaeth: “Mae gweithio gyda Theatr na nÓg, y Neuadd Les a Theatr Soar yn ddull gweithredu sy’n wirioneddol gydweithredol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau yn ogystal â rhoi cyfle i unigolion gyfranogi a mwynau gwaith a gynhyrchwyd yn lleol yn eu lleoliad wrth i ni barhau i weithio ar sioeau’r dyfodol a gweithgaredd cyfranogol i bob oed.”

Ychwanegodd Lis Mclean, cyfarwyddwr Theatr Soar: “Mae’r fenter hon yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae Theatr Soar wedi bod eisiau datblygu Theatr Gymraeg ei hiaith a chodi dyheadau a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymuned ers amser hir bellach. Cafodd hyn ei wneud yn bosibl drwy weithio mewn cydweithrediad ag eraill sy’n rhannu’r un gwerthoedd a gweledigaeth. Mae’r Consortiwm Cymraeg yn ymgorfforiad o’r hyn y mae Theatr Soar yn sefyll drosto.”

Bydd addasiad y Consortiwm o Shirley Valentine yn mynd ar daith o gwmpas lleoliadau’r Consortiwm a ledled Cymru ym mis Medi 2021, gan agor yn Theatr Soar. Er mwyn derbyn y diweddaraf ewch i www.theatrnanog.co.uk

Image: 

Theatre company unite three venues to support the rejuvenation of the Welsh language in the South Wales Valleys

A new collaboration, Y Consortiwm Cymraeg has been set up by award-winning Theatr na nÓg and three venues to present high-quality accessible Welsh language theatre. They also aim to produce a programme of participation for communities to improve their language skills and also engage in arts and culture on their doorstep.

Theatr Soar in Merthyr Tydfil, The Welfare in Ystradgynlais and Maesteg Town Hall have joined forces with Theatr na nÓg to rekindle the vitality and value of their venues to their communities. The new Consortiwm is supported by the Arts Council of Wales’ Connect and Flourish Fund. As cultural centres have faced lockdown, the need for these creative hubs in their communities is even greater, not just to help safeguard the future of Welsh language in the valleys, but to support a thriving valley community beyond the Covid Pandemic.

Geinor Styles, Theatr na nÓg’s artistic director explained why this initiative is so important at this time " If we want to hit the Welsh Government’s target of a million Welsh speakers by 2050, it is vital that we support all the elements that contribute to the regeneration of our language and culture, and these venues are the key to that success.

“It felt like a natural partnership for Theatr na nÓg to collaborate with three community theatres, all three are and have been vital contributors in supporting culture and the Welsh language in their areas. Our shared vision is not only to co-produce theatre to develop audiences but also to devise a programme of local community engagement. Our collaboration also puts us in a strong position to be prepared to revive these areas once lockdown lifts, and we start breathing life back into these towns post-Covid."

Although there is still uncertainty of when the venues will reopen the Consortiwm are looking forward with optimism as they announce their first collaboration, which will be a translation and adaptation of the classic comedy Shirley Valentine written by Willy Russel. Translated originally by Manon Eames, this version sees Shirley transported from Liverpool to South Wales. A popular theatrical hit when it opened at the Aberystwyth Eisteddfod in 1994, it is certain to draw audiences back to the venues.

Olivier Award winning actor and director of Chichester Festival Theatre Daniel Evans, said of the collaboration: “Once again Theatr na nÓg proves that they have the resilience to withstand the tough blows that have been handed to the arts industry throughout the pandemic. I think this is down to not just thinking of their own success, but by looking at the role they play in the community, they’ve seen that they can help make a difference. Working in collaboration and partnership with Soar, The Welfare and Maesteg Town Hall they can genuinely help the community to re-build and flourish. They’ve also seen the importance that the Welsh language plays in their community and that by working in partnership they can bring new and old audiences to the venues that can once again be the backbone of the community.

“I’m encouraged too that the Arts Council of Wales is supporting such ventures and partnerships, the fact that they see the importance in safeguarding Welsh language arts in our communities bodes well for our future.”

Wynne Roberts, director of The Welfare Ystradgynlais / Y Neuadd Les Ystradgynlais said “At the heart of our commitment to Y Consortiwm Cymraeg is the desire to be opening up the theatre making process to Welsh speaking communities. We’re excited to see how such a well-respected theatre production company, Theatr na nÓg, develop ideas for new theatre with participation from local people. Very rarely do you hear Cwmtawe Welsh language voices on the professional stage; that’s something that we really are looking forward to.

“We have a long history of community engagement from the early operatic and drama societies of the 1930s right up to recent award winning films made with Syrian families and community organisations; after such a difficult period for many local people without access to our community and arts services we know there is a real craving and desperate need for participation in the arts and we are really looking forward to seeing how local people respond.”

The Awen Cultural Trust charity has been operating the Maesteg Town Hall since 2015, currently closed for an ambitious £8m redevelopment the Hannah Kester, Head of Cultural Development at Awen Cultural Trust said of the partnership: “Working with Theatr na nÓg, the Welfare and Theatr Soar is a truly collaborative approach to increasing the use of the Welsh language in our communities as well as an opportunity to bring forward the rich heritage of our area. We look forward to audiences and individuals being given the chance to participate and enjoy regionally produced work in their venue as we continue to work on forthcoming shows and participatory activity for all ages.”

Lis Mclean, director of Theatr Soar in Merthyr Tudful added “This is a really inspirational venture, Theatr Soar has been wanting to develop Welsh language theatre to raise aspirations and increase the use of Welsh in our community for some time now. This has been made possible by working in collaboration with others who share the same values and vision. The Consortiwm Cymraeg encapsulates what Theatr Soar stands for.”

Consortiwm’s adaptation of Shirley Valentine is scheduled to tour to the Consortiwm venues and the rest of Wales in September 2021, opening in Soar Merthyr. To sign up to updates go to www.theatr-nanog.co.uk

Image: 

Looking back / Edrych nol - By/Gan Keiron Self

Way back in 1999 and 2000, Theatr na nÓg toured A Child’s Christmas in Wales. I was very lucky to be involved in both productions. We toured all over Wales, England and Ireland, bringing Dylan Thomas’ wonderful words to life.

Under Geinor Style’s direction it was a wonderfully creative experience with a fine troupe of ensemble actors bringing to life the myriad Uncles and Aunties and characters of Cwndonkin Drive, from the Townhill boys to the family Christmas dinner. On the first tour, I played Uncle Gwyn, a man who could and indeed had to eat lots of Christmas pudding in one short scene and on the second time around I was Dylan Thomas himself, both young and wistfully old, looking back on his life.

Now I’m at the right age to play Dylan in his later years, perhaps even too old now, the nostalgic wonder of the play and the joy of being part of it 20 years ago always comes back to me round November/December time.

It was also a show where I found out I was going to be a father of twins, when we were performing in London, my wife telling me just before I went on stage- no further memory of that particular show exists! And months later it was also where we toured Ireland our babes in arms. This of course crystallises the show in my mind, but it was also the joy of performing it.

It was sweaty with a lot of physical comedy and movement, made more so by the layers of winter clothes we were all wearing, but it was what the performance gave to audiences as well. All left happy, with that glowing, fuzzy feeling inside, the fuzzy feeling we all want at Christmas, and I had it with my theatrical and real family, courtesy of Theatr na nÓg.

_____________________________________________________________________________

Yn ôl ym 1999 a 2000, aeth Theatr na nÓg ar daith gyda A Child's Christmas in Wales. Roeddwn yn ffodus iawn i fod yn rhan o'r ddau gynhyrchiad. Aethom ar daith ledled Cymru, Lloegr ac Iwerddon, gan ddod â geiriau rhyfeddol Dylan Thomas yn fyw.

O dan gyfarwyddyd Geinor Styles roedd yn brofiad rhyfeddol o greadigol gyda chwmni gwych o actorion ensemble yn dod â myrdd o Ewythrod a Modrybedd a chymeriadau Cwmdonkin Drive yn fyw, o fechgyn Townhill i ginio Nadolig y teulu. Ar y daith gyntaf, chwaraeais Wncwl Gwyn, dyn a allai bwyta llawer o bwdin Nadolig mewn un olygfa fer, a'r eildro roeddwn yn Dylan Thomas ei hun, yn ifanc ac yn feddylgar o hen, yn edrych yn ôl ar ei fywyd.

Nawr fy mod ar yr oedran iawn i chwarae rhan Dylan yn ei flynyddoedd olaf, efallai hyd yn oed yn rhy hen erbyn hyn, mae rhyfeddod hiraethus y ddrama a'r llawenydd o fod yn rhan ohoni 20 mlynedd yn ôl bob amser yn dod yn ôl ataf adeg mis Tachwedd/Rhagfyr.

Roedd hi hefyd yn sioe lle darganfyddais fy mod i'n mynd i fod yn dad i efeilliaid, pan oedden ni'n perfformio yn Llundain, gyda fy ngwraig yn dweud wrtha i ychydig cyn i mi fynd ar y llwyfan - does dim cof pellach o'r sioe benodol honno yn bodoli! A misoedd yn ddiweddarach roeddem ar daith o amgylch Iwerddon gyda'n babanod yn fach iawn. Mae hyn wrth gwrs yn crisialu'r sioe yn fy meddwl, ond roedd llawenydd mawr wrth ei pherfformio hi hefyd.

Roedd yn chwyslyd gyda llawer o gomedi a symud corfforol, wedi'i wneud yn fwy felly gan yr haenau o ddillad gaeaf yr oeddem i gyd yn eu gwisgo, ond roddodd y perfformiad lawer i gynulleidfaoedd hefyd. Gadawodd pawb yn hapus, gyda’r teimlad disglair, cynnes hwnnw y tu mewn, y teimlad cynnes rydym i gyd ei eisiau adeg y Nadolig, a chefais hynny gyda fy nheulu theatrig a'm teulu go iawn, diolch i Theatr na nÓg.

Image: 

Cyfarfod Cefn Llwyfan

YMUNWCH Â NI AM GYFARFOD CEFN LLWYFAN
Wrth i 2020 gychwyn, roeddem ni yn Theatr na nÓg yn edrych ymlaen at
flwyddyn newydd o sioeau cyffrous a chydweithio â phartneriaid ac
ymarferwyr creadigo newydd.

Pwy allai fod wedi dychmygu bryd hynny sut y
byddai covid-19 yn cael cymaint o effaith ar ein bywydau i gyd.
Serch hyn, er gwaethaf yr ansicrwydd sy'n dal i wynebu pob un ohonom, mae
Theatr na nÓg wedi bod yn gweithio'n ddi-ffaid i gynllunio amrywiaeth o waith
theatr gyffrous ac uchelgeisiol i ddiddori a swyno cynulleidfaoedd Cymru yn
2021.

Rydym felly yn bachu ar y cyfle hwn i estyn allan i’r hol weithwyr llawrhydd
sy’n gweithio y tu ôl i'r llen yn ein diwydiant ac sy'n hanfodol i'r hud sydd yn
cael eu creu ar lwyfan; y Rheolwyr Llwyfan, y Technegwyr, y Gweithwyr
Gwisgoedd i enwi ond ychydig. Os nad ydych wedi gweithio gyda ni o'r blaen
neu'n awyddus i weithio gyda ni eto yna byddem wrth ein bodd yn clywed
gennych.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestri ewch i'r PDF isod.

Backstage Social

JOIN US FOR A BACKSTAGE SOCIAL!

As 2020 began, we at Theatr na nÓg were looking forward to a new year of exciting shows and collaborating with new partners and creative practitioners. Who could have imagined then how covid-19 would have such an an impact on all our lives.

However, despite the uncertainty that still faces us all, Theatr na nÓg have been working tirelessly planning an exciting and ambitious range of theatre work to engage and enthral Welsh audiences in 2021.

We are taking this opportunity to reach out to all freelance theatre practitioners who work behind the scenes in our industry that help make the magic happen; the Stage Managers, the Technicians, the Wardrobe Team to name but a few. If you haven’t worked with us before or keen to work with us again then we would love to hear from you.

For more information and to sign up click the PDF below.

pdf document: 

Operation Julie - Theatre companies join forces to create a psychedelic stage musical in lockdown

Over four decades ago, rural west Wales was at the centre of the greatest drugs bust in history. The police investigation, Operation Julie, resulted in dozens of arrests and the discovery of LSD worth £100 million. A brand-new musical play from Theatr na nÓg and Aberystwyth Arts Centre explores the story from both sides of the drugs divide – the police, and the hippies who settled in Ceredigion hoping to spread their ideals in a changing world.

This summer, Theatr na nÓg and Aberystwyth Arts Centre were due to launch an ambitious co-production for audiences in Aberystwyth. Operation Julie was to be a stage play packed with music, drama and comedy, telling the extraordinary story of what happened in and around west Wales in the mid-1970s when hippies settled in the area seeking a new way of living fuelled by acid and an alternative attitude. When a chance clue is discovered following a car accident, the local constabulary works with detectives from across Britain to uncover what turns out to be the biggest stash of acid ever found, taking out up to 60% of the world’s LSD market at that time.

When the coronavirus pandemic struck it became clear it would be impossible to open Operation Julie to live audiences at Aberystwyth Arts Centre in August and na nÓg and the arts centre made the decision to postpone its premiere until next spring.

Although a huge disappointment for both companies, they quickly decided to make the best of a bad situation, as Aberystwyth Arts Centre’s director Dafydd Rhys explains: “Though we’d prefer to be going into production now, that is no longer an option due to Covid – but it does allow the wonderful cast and team of creatives to get together to do some invaluable research and development work on the script, the characters and the music.”

Due to the continuing lockdown restrictions, writer-director Geinor Styles explains how they went about the R&D activity whilst being unable to physically rehearse together.

“I’m not a director that sits and pours over the script,” Styles says. “I like to get people up on their feet and moving. I believe I can solve things editorially whilst directing. This is probably the most frustrating thing and a real challenge for me because that is not possible over zoom. However there are advantages, the creatives, designers, sound, AV and lighting have been able to drop into rehearsal or listen in without having to physically be in the room. A real treat for us and them. It feels truly collaborative. Having them exclusively while still developing the script is very rare but such a real bonus.”

Geinor Styles, who has been developing the production since 2014 and believes that, due to COVID that the story has become even more relevant: “I feel as we move through this pandemic, that the story behind Kemp’s acid production and 8000 word micro doctrine, becomes more and more relevant to a planet that is being destroyed by consumerism and capitalism.”

She also feels the Operation Julie story is too important to be delayed. “I was astonished how relevant this story was to us living in a time where the climate was changing at an alarming rate,” she says. “That as a species, we needed to change our ways like the hippies of the ’60s and ’70s – their philosophy of wanting to ‘get back to the garden’. This philosophy was emphasised by our protagonist Richard Kemp, a talented scientist, who moved to Tregaron in the early '70s and created the purest form of LSD. He is the source of the whole story – without Kemp, you do not have Operation Julie.”

Theatr na nÓg and Aberystwyth Arts Centre’s version of events tells the story from both sides of the law, with Geinor Styles meeting and interviewing a variety of people from the area and of that time, one of the main acid dealers – Alston ‘Smiles’ Hughes, who was a key part of the LSD chain from his modest home in Llanddewi Brefi – and Lydia Jones, the daughter of the late Detective Sergeant Richie Parry, in the Zoom meetings with cast and crew.

Operation Julie is a musical play, a format favoured by the resilient and forward thinking theatre company, Greg Palmer is Operation Julie’s composer and musical director, working with actor-musicians over video call to create the score: “I’ve never rehearsed a show in this way before. My usual method is to be in the thick of things in the rehearsal room working with the actor-musicians in an organic way. This makes the cast feel part of the creative process. That immediacy is impossible to replicate via Zoom so the whole process becomes slower and more laboured.” This alterantive approach, though, has allowed Palmer to discuss LSD dealer Smiles’ psychedelic musical tastes and the records that influenced him during the period of the play. “I grew up as a teenager in the ’70s and listened to a lot of the music that Smiles et al would have been listening to. Smiles has referenced a number of bands from that era – Caravan, Bob Dylan, Steely Dan. I’ve been very keen from the beginning of the process to have the sound world of the play reflect those musical trends.”

Theatr na nÓg and Aberystwyth Arts Centre are confident that this extended development time, will result in a truly memorable production when Operation Julie finally reaches the stage next year. “Operation Julie will be a popular and important theatre production,” says Dafydd Rhys. “We remain totally committed to this uniquely Welsh tale that had an impact throughout the world. It also has the added bonus that the music will be fantastic! We know the audience will be in for a treat – a really good night of quality, thought provoking and popular theatre.”

Image: 

Ymgyrch Julie - Cwmnïau theatr yn dod at ei gilydd i greu sioe gerdd seicedelig i’r llwyfan yn ystod y cyfnod clo

Dros bedwar degawd yn ôl, gorllewin Cymru wledig oedd ffocws y sgandal gyffuriau fwyaf mewn hanes. Canlyniad archwiliad yr heddlu, sef Ymgyrch Julie, oedd dwsinau o arestiadau a darganfod LSD gwerth £100 miliwn. Mae sioe gerdd newydd sbon oddi wrth Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ystyried y stori o’r ddwy ochr - o safbwynt yr heddlu, a’r hipis a ymgartrefodd yng Ngheredigion gan obeithio lledaenu eu delfrydau mewn byd oedd yn newid.

Yn ystod yr haf eleni, ‘roedd Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn bwriadu lansio cynhyrchiad uchelgeisiol ar y cyd ar gyfer cynulleidfaoedd yn Aberystwyth. ‘Roedd Ymgyrch Julie i fod yn ddrama i’r llwyfan yn llawn cerddoriaeth, drama a chomedi, yn adrodd y stori eithriadol o beth ddigwyddodd yn ac o gwmpas gorllewin Cymru yn y 1970au canol pan fu hipis yn ymgartrefu yn yr ardal yn chwilio am ffordd newydd o fyw, ac yn cael eu hybu gan gyffuriau ac agweddau amgen. Pan mae cliw yn cael ei ddarganfod ar hap yn dilyn damwain car, mae’r heddlu lleol yn gweithio gyda ditectifs ledled Prydain i ddatgelu beth sy’n troi allan i fod y cuddfan mwyaf o asid a ddarganfyddwyd erioed, yn cynrychioli hyd at 60% o farchnad LSD y byd ar y pryd.

Pan ddigwyddodd y pandemig coronafeirws, daeth yn glir na fyddai’n bosibl gyflwyno Ymgyrch Julie i gynulleidfaoedd byw yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ym mis Awst a bu i Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddydau wneud y penderfyniad i ohirio cyflwyniad cyntaf y sioe tan y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Er bod hyn yn siom o’r fwyaf i’r ddau gwmni, penderfynwyd heb oedi i wneud y gorau o’r sefyllfa fel eglura cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Dafydd Rhys: “Er wrth gwrs y bydde’n well o lawer gennym gyflwyno’r cynhyrchiad ‘nawr, nid yw hynny’n opsiwn bellach oherwydd Covid - ond mae yn caniatau i’r cast a’r tîm creadigol gwych ddod at ei gilydd a gwneud ymchwil a gwaith datblygu gwerthfawr ar y sgript, y cymeriadau a’r gerddoriaeth.”

Yn sgil cyfyngiadau’r cyfnod clo, mae’r ysgrifenwraig-cyfarwyddwraig Geinor Styles yn egluro sut y bu iddynt ymgymryd â’r gwaith ymchwil a datblygu er nad oeddent yn medru ymarfer yn gorfforol gyda’i gilydd.

“Nid wyf yn gyfarwyddwraig sy’n eistedd ac yn canolbwyntio ar y sgript,” dywed Styles. “’Rwy’n licio cael pobl i fyny ar eu traed ac yn symud. Credaf y medraf ddatrys materion golygyddol tra’n cyfarwyddo. Mwy na thebyg dyma’r peth mwyaf rhwystredig ac heriol i mi oherwydd nid yw hyn yn bosibl dros Zoom. Fodd bynnag, mae ‘na fanteision - mae’r tîm creadigol, dylunwyr, sain, AV a goleuo wedi medru ymuno â’r ymarferion neu wrando heb orfod bod yn yr ystafell yn gorfforol. Sy’n wych i ni ac iddyn’ nhw. Mae’n teimlo’n wirioneddol gydweithrediadol. Mae cael nhw efo ni tra bod ni’n dal i ddatblygu’r sgript yn beth prin iawn ond yn fonws o’r mwyaf.”

Mae Geinor Styles, sydd wedi bod yn datblygu’r cynhyrchiad ers 2014, yn credu bod y stori’n fwy berthnasol nag erioed yn sgil COVID: “Teimlaf wrth i ni deithio trwy’r pandemig hwn, fod y stori y tu ôl i gynhyrchiad asid ac athrawiaeth gryno 8000 gair Kemp, yn dod yn fwy ac yn fwy perthnasol i blaned sy’n cael ei dinistrio gan brynwriaeth a chyfalafiaeth.”
Mae’n teimlo hefyd bod stori Ymgyrch Julie yn rhy bwysig i gael ei gohirio. “Cefais fy syfrdanu pan sylweddolais mor berthnasol oedd y stori hon i ni sy’n byw mewn cyfnod pan mae’r hinsawdd yn newid yn frawychus o sydyn,” meddai. “Bod angen arnom ni, fel rhywogaeth, newid ein ffyrdd fel hipis y ’60au a’r ’70au - eu hathroniaeth o ddymuno ‘dychwelyd yn ôl i’r ardd’. Pwysleisiwyd yr athroniaeth hon gan ein prif gymeriad Richard Kemp, gwyddonydd talentog a symudodd i Dregaron yn y '70au cynnar ac a greodd y ffurf buraf o LSD. Ef yw man cychwyn y stori gyfan - heb Kemp, nid yw Ymgyrch Julie yn bodoli.”

Mae fersiwn Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o ddigwyddiadau yn adrodd y stori o ddwy ochr y gyfraith, gyda Geinor Styles yn cyfarfod â ac yn cyfweld amrywiaeth o bobl o’r ardal a’r cyfnod hwnnw - un o’r prif ddelwyr asid Alston ‘Smiles’ Hughes, oedd yn rhan allweddol o’r gadwyn LSD o’i gartref diymhongar yn Llanddewi Brefi - a Lydia Jones, merch y diweddar Dditectif Ringyll Richie Parry, yn y cyfarfodydd Zoom gyda’r cast a chriw.

Mae Ymgyrch Julie yn ddrama gerddorol, fformat a ffefrir gan y cwmni theatr hyblyg ac arloesol hwn. Greg Palmer yw cyfansoddwr a chyfarwyddwr cerdd Ymgyrch Julie, yn gweithio gydag actorion-cerddorion dros fideo i greu’r sgôr: “’Dwi erioed wedi rihyrso sioe yn y modd yma o’r blaen. Fy null arferol yw i fod yng nghanol pethau yn yr ystafell ymarfer, yn gweithio gyda’r actorion-cerddorion mewn ffordd organig. Mae hyn yn gwneud i’r cast deimlo eu bod yn rhan o’r proses creadigol. Mae hynny’n amhosibl i gyflawni trwy Zoom, felly daw’r proses cyfan yn arafach ac yn fwy llafurus.” Fodd bynnag mae’r ffordd newydd yma o weithio wedi caniatau i Palmer drafod hoff gerddoriaeth seicedelig y deliwr LSD Smiles, a’r recordiau a gafodd ddylanwad arno yn ystod cyfnod y ddrama. “’Roeddwn yn f’arddegau yn y ’70au, yn gwrando ar y gerddoriaeth y byddai Smiles a’i griw wedi bod yn gwrando arni. Mae Smiles wedi cyfeirio at nifer o fandiau o’r cyfnod hwnnw - Caravan, Bob Dylan, Steely Dan. ‘Rwyf wedi bod yn awyddus iawn ers dechrau’r proses i sicrhau bod cerddoriaeth y ddrama yn adlewyrchu’r tueddiadau cerddorol hynny.”

Mae Theatr na nÓg a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn hyderus y bydd yr amser datblygu estynedig hwn yn sicrhau cynhyrchiad gwironeddol gofiadwy pan mae Ymgyrch Julie yn cyrraedd y llwyfan o’r diwedd y flwyddyn nesaf. “Bydd Ymgyrch Julie yn gynhyrchiad theatr poblogaidd a phwysig,” meddai Dafydd Rhys. “’Rydym yn gwbl ymrwymedig i’r stori Gymreig unigryw hon a gafodd effaith ledled y byd. Hefyd mae ganddi’r bonws ychwanegol bod y gerddoriaeth yn ffantastig! Gall y gynulleidfa edrych ymlaen at wledd - noson wych o theatr ysgogol a phoblogaidd o’r safon uchaf.”

Image: 

Just Jump - Jyst Neidia 2020 by/gan Daisy Williams

Back in February I was over the moon to be offered the chance to direct a play for Theatr na nÓg this summer. And you’ve probably guessed it, the lockdown meant it wasn’t possible. I was disappointed to say the least.

But rather than cry (…for not too long anyway), with the support of Geinor Styles and the Company we set out to create a new version; Virtual Just Jump (as I like to call it). The aim was for it to be seen by pupils in Cardiff and Milford Haven, highlighting the danger of tombstoning before the summer holidays.

The good news: we succeeded.
The brand-new version is available to watch online. Watch here!
But we faced many challenges…

First, in the original stage show, the story of Dr Tom Evans being reminded of his traumatic childhood past is usually told by two different actors. Both these actors play a myriad of characters throughout the story, allowing us to meet those affected by the incident. So, how do you get more than one actor in the same room during lockdown? And not a virtual zoom room, but a real 4 walled room. The answer, it just wasn’t possible.

Secondly, we would usually have a wonderful set designed by the brilliant Luned Gwawr Evans, with additional lighting and sound effects on the set bringing the production to life. But because of the lockdown; no set, no lighting or sound effects.

So, only one actor per room, no set and we had to adapt this story to work in a world facing a global pandemic. Hmm…

There were more than a few hurdles, we had to shake things up. So, we got a team together; writer Ciaran Fitzgerald to adapt the script under the new structure we had planned, Luned Gwawr Evans to support us in trying to make the film look great with limited equipment, Jessica Pomeroy (who would have been Stage Managing) to design soundscapes for the piece, and Barnaby Southgate to bring all the above elements together by composing an original score for the piece. Such a fantastic, talented team to work with.

And yes, together with actors Tom Blumberg and Dan Reilly playing all the different characters, we managed to create a new version of the story. A “virtual” Just Jump.

I’m overjoyed with the results and so happy that we were still be able to create something this summer with this brilliant team and with the support of Cardiff Harbour Authority, Port of Milford Haven, Arts & Business Cymru and of course Theatr na nÓg.

Now, let’s see what else we can adapt.

Watch the Cardiff video here
Watch the Milford video here

_____________________________________________________________

Nol ym mis Chwefror ges i gynnig i gyfarwyddo drama i Theatr na nÓg ym mis Mehefin. Ond, chi siŵr o fod wedi dyfalu, oherwydd y lockdown, doedd hyn yn bosib. O’n i wir wedi siomi.

Ond yn lle pwdi am y peth (…am rhy hir ta beth), gyda chefnogaeth Geinor Styles â’r cwmni dechreuon ni gynllunio fersiwn newydd; Jyst Neidia Digidol (dyna beth dwi’n galw’r prosiect ta beth.) Y nod oedd i’r stori gael ei weld gan ddisgyblion yng Nghaerdydd ac Aberdaugleddau, yn sôn am beryglon neidio i ddŵr (neu “tombstoning”), cyn i’r gwyliau haf dechrau.

Y newyddion da: llwyddon ni i neud hyn.
Mae’r fersiwn newydd ar gael i’w wylio ar-lein. Gwyliwch yma!
Ond roedd yna lawer o heriau…

Yn gyntaf, yn y sioe wreiddiol, mae stori Dr Tom Evans yn cael ei adrodd gan ddau actor yn chwarae nifer fawr o gymeriadau, yn ein cyflwyno ni i bawb cafodd eu heffeithio gan y digwyddiad ofnadwy ym mywyd Tom. Felly, sut ydych chi’n cael mwy nag un actor mewn ystafell yn ystod lockdown? Ac nid mewn ystafell zoom, ond un go iawn gyda waliau a nenfwd a phopeth. Wel yr ateb yw, doedd hi ddim yn bosib.

Yn ail, fel arfer basen ni’n defnyddio set wedi’i ddylunio gan y dylunydd Luned Gwawr Evans, gyda goleuadau ac effeithiau sain i ddod a’r holl brofiad yn fyw. Ond oherwydd lockdown, dim set, dim goleuadau nag effeithiau sain.

Felly, dim ond un actor mewn ystafell, dim set ac roedd rhaid i ni addasu’r stori i weithio mewn byd oedd yn wynebu pandemig ryngwladol. Hmm…

Gan fod mwy fyth o heriau i gyd, roedd rhaid i ni fynd amdani a throi pethau wyneb i waered. Felly, fe wnaethom ni ymgynnull tîm; yr ysgrifennwr Ciaran Fitzgerald i addasu’r sgript gyda’r strwythur newydd, Luned Gwawr Evans i wneud yn siŵr bod ansawdd y ffilm mor dda â phosib gyda chyfyngiadau offer, Jessica Pomeroy (Rheolwr Llwyfan) i greu’r sain, a Barnaby Southgate i gyfuno’r holl beth drwy gyfansoddi cerddoriaeth i’r prosiect. Tîm arbennig i weithio gyda.

Ac ie, gyda’n gilydd, ynghyd â’r actorion Tom Blumberg a Dan Reilly yn chwarae’r cymeriadau i gyd, llwyddon ni i greu’r fersiwn newydd o’r stori. Jyst Neidia ar gyfer y byd digidol.

Dwi wrth fy modd gyda’r canlyniad, ac yn sobor o hapus ein bod ni dal yn gallu creu rhywbeth yr haf hwn gyda’r tîm ffantastig yma, ynghyd â chefnogaeth Awdurdod Harbwr Caerdydd, Port of Milford Haven, Arts & Business Cymru ac wrth gwrs Theatr na nÓg.

Nawr, dewch i ni gael gweld beth arall y gallwn ni addasu.

Gwyliwch fideo Caerdydd yma
Gwyliwch fideo Aberdaugleddau yma

Image: 

Pages

Croeso | Welcome

Gyda'ch cefnogaeth chi, gallen neud lot mwy.

Helpwch ni i danio dychymyg cenedl

With your support, we can do more.

Help us ignite the imagination of the nation

Mae Theatr na nÓg yn elusen gorfrestredig yng Nghmru a Lloegr
(515903) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warrant.
Theatr na nÓg is a charity registered in England and Wales
(515903) and a company limited by guarantee.

Download our app

Download our creative learning app for the classroom and home!

Download on the App storeGet it on Google play

From our blog