Languages

Ble mae dechrau? - Blog Abi

Ble mae dechrau? Fy enw i yw Abi Johns ac rwy’n fyfyrwraig trydedd flwyddyn ‘BA Theatr a Drama’ ym Mhrifysgol De Cymru. Pan gefais wybod bod rhaid i mi ddewis lle i wneud fy mhrofiad gwaith, roeddwn yn gwybod y byddai Theatr na nÓg yn berffaith ar fy nghyfer gan fod gen i ddiddordeb mewn perfformiad, hanes a gweithio â phlant. Caniataodd y cwmni i mi archwilio’r holl elfennau hyn ac roeddwn yn ffodus i gael profiad mor gadarnhaol a oedd yn gryn agoriad llygad i’r diwydiant. Cefais fy nghroesawu gan ddynes hyfryd o’r enw Daisy a aeth â mi o amgylch gan esbonio elfennau ‘cefn llwyfan’ y cwmni. Esboniodd yr holl wahanol swyddi yn y cwmni ac roeddwn yn chwilfrydig gyda’r cyfan! Yna, eisteddais i wrando ar ymarferion ‘Y Bluen Wen’ lle cefais gyfle i leisio fy marn ar yr hyn yr oeddwn newydd ei weld. Gwnaeth yr holl gast, y criw a’r cyfarwyddwr i mi deimlo’n groesawgar. Cefais fy synnu gan yr hyn y llwyddwyd i’w gyflawni mewn amser mor fyr, yn enwedig gan fod aelod o’r cast yn ddysgwr Cymraeg a oedd wedi dysgu’r holl sgript mewn llai nag wythnos ac a oedd wedi rhoi perfformiad mor ddi-fai. Gadewais, wedi fy niwrnod cyntaf o brofiad gwaith yn teimlo’n gyffrous.

Parhaodd gweddill fy mhrofiad gwaith i fod yr un mor gadarnhaol. Sicrhaodd Daisy fy mod yn cael y gorau o’r cyfle a chefais gyfle i fod yn rhan o’r prosesau technegol y tu ôl i’r llwyfan - goleuo / sain / propiau a newidiadau gwisgoedd. Dysgais rywbeth newydd bob dydd ac mae wedi fy ysbrydoli i eisiau gwybod mwy am rolau cefn llwyfan. Roedd aelodau’r cast mor hyfryd yn fy nghaniatáu i fod yn bresennol yn eu sesiynau cynhesu i fyny, darlleniadau cyflym a hyd yn oed cael cinio gyda nhw. Roedd yn agoriad llygad i siarad â phobl yn y diwydiant a gwrando ar y cyngor yr oedd ganddynt. Yn ddiweddarach, cefais gyfle i gweithio gyda Laura, un o’r Rheolwyr Llwyfan (a oedd yn gofalu am oleuo a sain) a WOW - roedd y pwysau roeddwn yn ei deimlo wrth eistedd y tu ôl i’r ddesg sain yn anhygoel. Gallai pwyso’r botwm anghywir effeithio ar yr holl sioe. Rhoddodd werthfawrogiad newydd i mi o’r swydd. Aeth Laura â mi drwy’r holl broses ac mi ddysgais gymaint wrthi. Cefais hefyd gyfle i gysgodi Kirstie, a oedd hefyd yn Rheolwr Llawr (yn edrych ar ôl propiau a gwisgoedd.) Cefais fy synnu gan ba mor gyflym yr oedd popeth yn digwydd y tu cefn i’r llwyfan. Unwaith yn rhagor, esboniodd Kirstie yr holl broses i mi ac erbyn y diwedd, roeddwn yn teimlo fod gen i syniad go dda o beth i’w wneud. Roedd Laura a Kirstie mor anhygoel ac yno i’m helpu gyda phob dim. Hoffais ailosod y llwyfan ar gyfer y perfformiad nesaf a chael cyfle i deimlo’n rhan o dîm mor anhygoel. Mae tîm yn air pwysig wrth ddisgrifio fy mhrofiad yn Theatr na nÓg.

Diolch ENFAWR i Theatr na nÓg am ganiatáu i mi gael profiad mor uniongyrchol yn y diwydiant. Mae Daisy hefyd wedi rhoi cyfle i mi gyfranogi mewn gwaith cenhadu. Yn naturiol, roedd diddordeb gen i wneud hyn gan fod angen pob profiad posib arnaf. Gwisgais fyny fel Swffragét gan gynorthwyo i arwain plant ysgol o un lleoliad i’r llall. Roedd yn brofiad llawn hwyl. Mae’r cwmni wedi gwneud dysgu yn brofiad hwyliog ac ymgysylltiol. Gofynnwyd llawer o gwestiynau i mi a’r actorion ar ôl pob perfformiad ac oedd yn hyfryd i’w weld. Rwy’n teimlo’n hynod ffodus i fod wedi cael profi cymaint, yn enwedig â chwmni sy’n rhan mor ysbrydoledig o fywydau nifer o blant ifanc. Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn y byddaf yn ail-ymweld â nhw ym mis Ionawr ac y byddaf yn parhau i ddysgu wrthynt.

Image: 

Gyda'ch cefnogaeth chi, gallen neud lot mwy.

Helpwch ni i danio dychymyg cenedl

With your support, we can do more.

Help us ignite the imagination of the nation

Mae Theatr na nÓg yn elusen gorfrestredig yng Nghmru a Lloegr
(515903) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warrant.
Theatr na nÓg is a charity registered in England and Wales
(515903) and a company limited by guarantee.

Copyright © Theatr NaNog.
Designed by Hoffi using Drupal