Languages

Cydweithrediad gwyddoniaeth gyfrifiadurol greadigol Abertawe yn ysbrydoli meddyliau ifanc â phrosiect newydd, sy’n dod â dysgu peiriant ynghyd ag un o ddarganfyddiadau gwyddonol pwysicaf Cymru.

Mae’r rhaglen allgymorth arloesol i ysgolion Technocamps wedi ymuno unwaith yn rhagor â’r cwmni aml-wobrwyedig Theatr na nÓg ar gyfer prosiect ar y cyd sy’n dod â pheth o’r sgiliau technoleg fwyaf blaenllaw at blant a phobl ifanc ledled De Cymru.

Mae eu prosiect mwyaf diweddar, sy’n seiliedig ar y ddrama Heliwr Pili Pala, yn dod ag adrodd straeon hudolus am y gwyddonydd o Gymru Alfred Russel Wallace (cyfoeswr â Darwin a ddarganfyddodd theori esblygiad yn annibynnol yn sgil ei anturiaethau i bedwar ban byd) ynghyd â sgiliau i gatalogio natur drwy ddysgu peiriant.

Dyma’r prosiect cyntaf erioed i Technocamps a Theatr na nÓg greu partneriaeth arno yng Nghymru ers eu cydweithio poblogaidd rhyngwladol yng Ngwyl SPARK Hong Kong yn gynharach eleni.

Ers ei sefydlu yn 2003, bu tîm Technochamps yn darparu gweithdai am raglennu, datblygu gemau, robotigs, codio a datblygu apiau i fwy na 45,000 o bobl ifanc yng Nghymru. Mae gweithdy diweddaraf Technochamps sy’n archwilio dysgu peiriant, ymhlith y mwyaf uchelgeisiol hyd yma. Mae dysgu peiriant yn cymhwyso deallusrwydd artiffisial mewn systemau, gan roi’r cyfle iddynt ddysgu a gwella’n awtomatig yn sgil profiad heb raglennu pellach. Diolch i’r cydweithio hwn, cafodd plant ledled De Cymru y cyfle i roi cynnig ar hyn eu hunain, gan greu eu rhaglenni deallus eu hunain a fydd, dros amser, yn dysgu i gatalogio’r gwahanol drychfilod a phryfed maen nhw’n eu darganfod yn rhywogaethau diffiniedig.

Cafodd y gweithdai arloesol hyn eu cynnig i ysgolion cynradd ledled Abertawe fel rhan o becyn i ysgolion i gyd-fynd â chynhyrchiad diweddaraf Theatr na nÓg, Heliwr Pili Pala a bydd ar gael i’r cyhoedd cyn bo hir gydag adnoddau ar wefan Technocamps. Ysgrifennwyd Heliwr Pili Pala, drama wreiddiol ar gyfer Theatr na nÓg yn dathlu bywyd y gwyddonydd o Gymru Alfred Russel Wallace, gan y Cyfarwyddwr Artistig Geinor Styles, sydd wedi ei gwobrwyo â Chymrodoriaeth Anrhydeddus oddi wrth y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama am ei gwaith yn dod â theatr o ansawdd uchel i blant yng Nghymru.

Ganwyd Alfred Russel Wallace yn Llanbadog, Sir Fynwy, ac yn ddiweddarach roedd yn byw yng Nghastell-nedd. Darganfyddodd Theori Esblygiad yn annibynnol o Charles Darwin yn yr 1850au - mewn gwirionedd cafodd ei bapur ar y pwnc ei gyhoeddi ar y cyd ac ochr yn ochr â phapur Darwin. Ers ei farwolaeth mae rôl Wallace yn un o’r darganfyddiadau mwyaf erioed wedi diflannu o hanes bron tra bo Darwin yn cael ei gydnabod gan blant ledled y byd. Mae’r Heliwr Pili Pala yn mynd â chynulleidfaoedd ifanc ar antur drwy fywyd Wallace a’i fordeithiau drwy jyngl Brasil a’r Malay Archipelago, gan amlygu pwysigrwydd bioamrywiaeth a sgwrsio ar hyd y daith.

Mae’r cynhyrchiad wedi bod yn rhedeg fel rhan o brosiect theatr ysgolion blynyddol Theatr na nÓg drwy gydol misoedd Medi a Hydref 2019. Ei deitl Saesneg yw The Butterfly Hunter.
Fodd bynnag, bydd dau berfformiad am ddim i’r cyhoedd yn Theatr Dylan Thomas, ynghyd â gweithdai Technocamps, yn digwydd fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe ddydd Sadwrn 26 Hydref 2019.

Gweithdy Cyfrwng Saesneg: 2.30pm, Ystafell Vivian, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Perfformiad Cyfrwng Saesneg: 4.30pm, Theatr Dylan Thomas
Gweithdy Cyfrwng Cymraeg: 10.30am, Ystafell Vivian, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Perfformiad Cyfrwng Cymraeg: 12pm, Theatr Dylan Thomas

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe.

Image: 

Gyda'ch cefnogaeth chi, gallen neud lot mwy.

Helpwch ni i danio dychymyg cenedl

With your support, we can do more.

Help us ignite the imagination of the nation

Mae Theatr na nÓg yn elusen gorfrestredig yng Nghmru a Lloegr
(515903) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warrant.
Theatr na nÓg is a charity registered in England and Wales
(515903) and a company limited by guarantee.

Copyright © Theatr NaNog.
Designed by Hoffi using Drupal