Languages

Sut i Greu Tornado Dan Do

Rhai o ymenyddiau gorau'r byd mewn Dylunio Llwyfan yn ymuno i fynd i'r afael â her anarferol.

Fis Medi bydd yr arobryn Theatr na nÓg yn cyflwyno her dechnegol hynod ddifyr yn y digwyddiad OISTAT@50 rhyngwladol, sy'n cael ei gynnal eleni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Caerdydd.

Yn cynnwys rhwydwaith byd eang o wneuthurwyr theatr arbenigol sydd â diddordeb ym mhosibiliadau diderfyn technoleg mewn dylunio, mae OISTAT (neu yr ' Organisation Internationale des Scénographes, Techniciens et Architectes de Théâtre') yn 50 mlwydd oed eleni. I nodi'r achlysur, dewiswyd dinas Caerdydd i gynnal wythnos o weithgareddau a digwyddiadau dathlu cyhoeddus, symposiums ymchwil ac anerchiadau, gweithdai a pherfformiadau, gyda chynrychiolwyr yn hedfan i'r ddinas o bedwar ban byd. Cynllunnir y dathliadau i rannu syniadau arloesol, annog arbrofi a hyrwyddo cydweithredu rhyngwladol mewn perfformiadau byw ar draws y byd.

Mae'r digwyddiad wythnos o hyd yn diweddu mewn cyflwyniad gan y cwmni theatr Cymreig arloesol Theatr na nÓg a fydd yn perfformio golygfa fer o'u drama arobryn Eye of the Storm.

Wedi'i hysgrifennu gan y Cyfarwyddwr Artistig Geinor Styles a'r cerddor sydd wedi ennill gwobr Grammy, Amy Wadge (sy'n fwyaf adnabyddus am ysgrifennu Thinkin' Out Loud gydag Ed Sheeran), mae Eye of the Storm yn antur gerddorol wefreiddiol wedi'i hanelu at gynulleidfaoedd ifanc sy'n hyrwyddo ynni amgen a chyflawniadau menywod mewn pynciau STEM. Mae'n adrodd stori Emmie, gofalwr ifanc gyda dawn mewn gwyddoniaeth, sy'n breuddwydio am ddianc rhag ei chyfrifoldebau yng Nghymru wledig i ddilyn stormydd yn America. Ar gyfer prosiect ysgol mae hi'n meddwl am syniad i gipio pŵer tornados i greu ffynhonnell ynni amgen ac mewn diweddglo ysblennydd mae'r cwmni'n creu tornado artiffisial yn fyw ar lwyfan.

Yn dilyn darn Theatr na nÓg o'r ddrama, bydd nifer o dimau o fyfyrwyr dylunio llwyfan technegol fedrus yn cyflwyno arddangosiadau byw o'u hateb i'r cwestiwn o sut i greu tornado gwirioneddol o flaen cynulleidfa mewn lleoliad theatr. Bydd pob tîm wedi bod yn gweithio ar y broblem drwy'r wythnos, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau cemegol a ffisegol o dan arweiniad arbenigol Sean Crowley, Pennaeth Dylunio Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae OISTAT@50 digwydd yn CBCDC rhwng 27 Awst – 1 Medi 2018, gyda chyflwyniad tornado Theatr na nÓg yn digwydd am 6pm ar 1 Medi.

Edrychwch ar cardiffoistat50.com am fwy o wybodaeth, neu ewch i ar gyfer newyddion am daith Eye of the Storm DU 2019.

Image: 

Gyda'ch cefnogaeth chi, gallen neud lot mwy.

Helpwch ni i danio dychymyg cenedl

With your support, we can do more.

Help us ignite the imagination of the nation

Mae Theatr na nÓg yn elusen gorfrestredig yng Nghmru a Lloegr
(515903) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warrant.
Theatr na nÓg is a charity registered in England and Wales
(515903) and a company limited by guarantee.

Copyright © Theatr NaNog.
Designed by Hoffi using Drupal