Ieithoedd

Aimee Morris yn sôn am ei Phrofiad Gwaith yn y byd Theatr

Fel person ifanc sy'n byw yng Nghymru, dywedir wrthym yn gyson bydd ‘Profiad Gwaith’ yn edrych yn dda ar eich CV, a bydd hynny'n gwneud eich datganiad personol yn well, gan cynyddu eich siawns o gael eich derbyn i’ch brifysgol dewis cyntaf. Dyma'r unig fanteision y credais y byddai profiad gwaith yn rhoi i mi tan i mi dreulio wythnos yn Theatr na nÓg.

Rydw i'n berson creadigol iawn ac wedi dwli â’r celfyddydau ers i mi fod yn ferch fach. Roeddwn i arfer mynychu grwpiau theatr, gwersi ballet, gwersi canu, perfformio ym mhob math o gyngerddau ysgol ac wastad wedi teimlo'n gyfforddus wrth wneud hi. Yn fyr, rwyf wedi caru'r theatr ers blynyddoedd, ac yn ceisio gweld cymaint o gynyrchiadau byw ag y gallaf! Yn ystod fy blynyddoedd olaf yn yr ysgol gynradd, fe ges i’r cyfle i fynychu cynhyrchiad Theatr na nÓg - 'The Buterflyfly Hunter'. Dwi dal yn cofio nes i neidio allan o'm sedd pan welais fod llong Alfred Russel Wallace ar dân a bod ei holl waith y bu'n ei wneud yn ymchwilio i wahanol rywogaethau dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi llosgi. Ers hynny, dwi ‘di bod yn ffodus i weld nifer fawr o gynyrchiadiadau Theatr na nÓg – o ‘Arandora Star’ yn 2011, hyd at ei sioe diweddaraf 'Eye of the Storm' yn 2017.

Oherwydd hyn, roedd y dewis lle hoffwn fynd am brofiad gwaith yn un hawdd. Mae bod yma wythnos hon wedi agor fy llygaid ar faint o wahanol yrfaoedd sydd yn gysylltiedig â drama. Gan fy mod i wastad wedi moyn actio a pherfformio, nes i ddim sylweddoli am yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni mewn cwmni theatr. Mae cymaint o swyddi nad oeddwn wedi'u hystyried - marchnata, cyllid, codi arian, rheolwr cynhyrchu, cyfathrebu a llawer mwy. Dwi wedi sylweddoli nawr bod fy syniad gwreiddiol o’r diwydiant ddrama a theatr yn un gonfensiynol iawn, gan gredu yr unig ffordd o fod yn llwyddianus yw i fod yn seren. Trwy dreulio’r wythnos yma gyda chymaint o bobl hyfryd, yn ymgysylltu â gwahanol swyddi, cael fy nhrin â pharch a gwneud ffrindiau gyda phawb, dwi nawr yn gweld y diwydiant yn hollol wahanol. Beth dwi’n ceisio dweud yw dylai pobl ddim feddwl taw yr hyn sydd yn digwydd ar y llwyfan neu o flaen y camera yw’r unig peth pwysig, mae yna llawer mwy. Os allech datgloi’r syniad yma, gwelwch fod y byd Theatr a Drama yn gallu cynnig lot fawr o bosibiliadau i chi. Dyma beth dwi wedi dysgu o fy amser byr gyda Theatr na nÓg.

Image: 

Gyda'ch cefnogaeth chi, gallen neud lot mwy.

Helpwch ni i danio dychymyg cenedl

With your support, we can do more.

Help us ignite the imagination of the nation

Mae Theatr na nÓg yn elusen gorfrestredig yng Nghmru a Lloegr
(515903) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warrant.
Theatr na nÓg is a charity registered in England and Wales
(515903) and a company limited by guarantee.

Copyright © Theatr NaNog.
Designed by Hoffi using Drupal