Ieithoedd

Dyma Carys Wehden

Mae theatr wastad wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd. Cefais fy ysbrydoli o oedran ifanc gan fy athrawon ysgol gynradd ac o gwmnïau theatr a ddaeth i ein hysgol i berfformio i ni. Roedd Theatr na nÓg yn un o’r cwmnïau yma a ddaeth i ein hysgol, ac o’r eiliad yma ymlaen dwi’n gallu cofio meddwl hoffwn fod yn rhan o fyd hudol a chreadigol theatr. 15 blwyddyn yn ddiweddarach, a dyma fi yn dechrau gradd Meistr mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. My gen i radd israddedig mewn Drama a Saesneg Llenyddiaeth o Brif Ysgol Birmingham ac rydw i’n teimlo o’r diwedd bod fy mreuddwyd o weithio yn y byd theatr yn dechrau dod yn realiti.

Fel siaradwr Cymraeg yn byw yng Nghymru, hoffwn fod celfyddydau Cymraeg yn ganolbwynt fy ngyrfa. Gan fy mod wedi gwneud profiad gwaith gyda’r BBC a Theatr y Sherman yn y gorffennol, meddyliais a gallai mynd yn nol at fy mhlentyndod a gwneud profiad gwaith gyda chwmni theatr dwi wedi edmygu am flynyddoedd. Awst yma wnes i sicrhau 5 ddiwrnod o brofiad gwaith gyda Theatr na nÓg. Roedd y profiad yma wedi cadarnhau bod y celfyddydau yn y diwydiant rydw i eisiau gweithio mewn, yn enwedig mewn theatr, a wnes i wir mwynhau fy amser gyda Theatr na nÓg. Roedd pob aelod o’r tîm wedi cymryd eu hamser i esbonio eu rôl a chyfrifoldebau a wnes i dderbyn gwybodaeth ar sut mae cwmni theatr yn gweithio. Fel aelod o’r gynulleidfa, rydyn ni’n gweld beth sy’n digwydd ar y llwyfan yn unig, ond mewn gwirionedd mae cymaint o waith caled yn digwydd misoedd cyn y perfformiadau.

Wnes i ffeindio swydd Kate Williams fel Rheolwr Theatr a swydd Nancy Sheterline fel Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu yn ddiddorol iawn. Gan fod dyma oedd fy mewnwelediad cyntaf i gwmni theatr, roedd hi’n hynod o ddiddorol i ddysgu am strategaethau marchnata ac i weld sut mae cyllidebau cynyrchiadau yn cael eu cyfrifo. Wnes i wir mwynhau ymchwilio am gronfeydd posib i Eye of the Storm a helpu Nancy gan ymchwilio a chrynhoi taflen o gysylltiadau gwasg defnyddiol. Yn ystod fy mhrofiad gwaith roeddwn i’n ddigon lwcus i eistedd mewn ar ymarferion am Y Bluen Wen. Roedd hi mor gyffrous i weld beth sy’n digwydd yn ystod yr adeg gyntaf o ymarferion ac roedd hi’n hyfryd i gwrdd â phob aelod o’r cast a’r criw. Er wnes i fwynhau gwylio'r ymarferion, roedd rhan ohono i yn cael ei thynnu yn nol i’r swyddfa i weld os oedd unrhyw dasgau gallai helpu gyda. Er bod y rhan creadigol o’r broses o gynhyrchiad yn ddiddorol, wnes i ddarganfod fy mod yn perthyn gwell i’r ochr mwy strategol a logistaidd.

Hoffwn i ddiolch i Theatr na nÓg am adael i mi dreulio amser yn ei gwmni theatr. Wnes i fwynhau pob eiliad o’r profiad ac mae beth rydw i wedi dysgu yn amhrisiadwy. Rydw i nawr yn teimlo’n hyderus i ddechrau fy ngradd Meistr gan fy mod yn gwybod llawer mwy am sut mae cwmni theatr yn gweithio. Rydw i’n edrych ymlaen at weld cynyrchiadau ardderchog gan Theatr na nÓg yn y dyfodol ac rydw i’n gobeithio bydd llawer mwy o bobl ifanc yn cael eu hysbrydoli, fel gwnes i.

Image: 

Gyda'ch cefnogaeth chi, gallen neud lot mwy.

Helpwch ni i danio dychymyg cenedl

With your support, we can do more.

Help us ignite the imagination of the nation

Mae Theatr na nÓg yn elusen gorfrestredig yng Nghmru a Lloegr
(515903) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warrant.
Theatr na nÓg is a charity registered in England and Wales
(515903) and a company limited by guarantee.

Copyright © Theatr NaNog.
Designed by Hoffi using Drupal