Ieithoedd

Mae Storm ar y Ffordd! Mae Amy Wadge, enillydd gwobr Grammy yn ôl i ddatblygu sioe gerdd boblogaidd Theatr na nÓg, Eye of the Storm.

Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill! Byddwn yn gweithio gyda'r fenyw hyfryd hon eto - yr enillydd gwobr Grammy, Amy Wadge - i ddatblygu ein sioe gerdd boblogaidd Eye of the Storm.

Watch the Eye of the Storm Trailer from theatr na nOg on Vimeo.

Diolch yn fawr i PRS Foundation am wneud y gwaith gwefreiddiol hwn yn bosibl.

Yr enillydd Grammy Amy Wadge yn un o gyfansoddwyr caneuon cyfoes mwyaf toreithiog y DU. Mae llwyddiant mwyaf nodedig Amy hyd yn hyn o ganlyniad i'w phartneriaeth ysgrifennu hirsefydlog gydag Ed Sheeran. Cân Amy ac Ed, Thinking Out Loud, oedd y drydedd sengl oddi ar ail albwm Sheeran, a enwebwyd teirgwaith am Grammy, sef X (Multiply). Aeth i Rhif 1 yn Siart y DU ym mis Tachwedd 2014 ar ôl treulio 19 wythnos yn y 40 uchaf, gan dorri'r record ar gyfer y daith hiraf erioed i'r brig. Yn agosach at adref, mae Amy wedi ennill yr Artist Benywaidd Gorau yng Ngwobrau Cerddoriaeth Cymru ddwywaith, y tro cyntaf wrth drechu Charlotte Church a'r ail ar y blaen i Cerys Matthews. Yn fwy diweddar mae hi wedi hudo cynulleidfaoedd teledu gyda'i thrac sain swynol ar gyfer drama'r BBC, Un Bore Mercher.

Diolch i arian Beyond Borders gan Ymddiriedolaeth PRS, bydd Theatr na nÓg ac Amy Wadge yn dod ynghyd unwaith eto, i greu rhagor o gyfansoddiadau iasol ar gyfer eu sioe gerdd arobryn, teimladwy am freuddwydion gofalwr ifanc am ddianc o Gymru wledig a chroesi'r Iwerydd i ddilyn y stormydd yng Nghanolbarth Gorllewin America.

Ar ôl cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn ystod hydref 2017, cafodd Eye of the Storm glod mawr gan y beirniaid ac enillodd y Sioe Orau i Blant a Phobl Ifanc yng Ngwobrau Theatr Cymru.

Recordiwyd trac sain Eye of the Storm gwreiddiol Amy Wadge ar albwm CD argraffiad cyfyngedig sydd ar gael gan Theatr na nÓg, neu fel arall, gallwch lawrlwytho'r traciau ar iTunes ac Amazon.

Dilynwch ni ar facebook, twitter ac Instagram neu ymunwch â'n rhestr bostio i gael y newyddion o'r tu ôl i'r llenni wrth i'r sioe ddatblygu ac am ddyddiadau teithio yn y dyfodol.

Image: 

Gyda'ch cefnogaeth chi, gallen neud lot mwy.

Helpwch ni i danio dychymyg cenedl

With your support, we can do more.

Help us ignite the imagination of the nation

Mae Theatr na nÓg yn elusen gorfrestredig yng Nghmru a Lloegr
(515903) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warrant.
Theatr na nÓg is a charity registered in England and Wales
(515903) and a company limited by guarantee.

Copyright © Theatr NaNog.
Designed by Hoffi using Drupal