Fel gwirfoddolwr yn St Bevan’s Hospital Radio mae gan DJ Dani Walkman y swydd orau yn y byd i gyd, oherwydd mae'n credu bod gan bawb gân i'w chanu.
Hynny yw, nes iddo gwrdd â Peggy, claf ar Ward East 5, sy'n ei droelli o amgylch ei bys bach wrth iddo geisio dyfalu ei chân arbennig hi.
Mewn cyfieithiad newydd gan Jeremi Cockram, mae’r ddrama gynnes hon, gan Katherine Chandler, yn lythyr cariad at y GIG ac i bawb sy’n gwirfoddoli yn y gwasanaeth.
Wedi'i chomisiynu'n wreiddiol gan National Theatre Wales, bydd y sioe dwymgalon hon a berfformir gan Dion Davies, a'i chyfarwyddo gan Phil Clark a Christian Patterson yn codi'ch ysbryd ac yn ailddatgan eich ffydd mewn pobl.


Mae’r cynhyrchiad hwn yn dathlu menter newydd, sef y Consortiwm Cymraeg. Mae'r Consortiwm yn cynnwys partneriaeth rhwng cwmni cynhyrchu Theatr na nÓg a thair canolfan yng Nghymoedd y de  - Theatr Soar, Neuadd Les Ystradgynlais a Neuadd y Dref Maesteg.
 

Cast
Dion Davies
Dani Walkman
Cynhyrchiad
Katherine Chandler
Awdur
Jeremi Cockram
Cyfieithydd
Phil Clark
Cyfarwyddwr
Christian Patterson
Cyfarwyddwr
Geraint Chinnock
Rheolwr Llwyfan
Carl Davies
Cynllunydd
Craig Harris
Golygydd
Stephen J Hart
Camera a Goleuo
Hywel Jones
Sain
Sion Organ
Cynllunydd Sain
Alison Palmer
Rheolwr Llwyfan