Mewn partneriaeth â Technocamps

Y Sioe orau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc – Gwobrau Theatr Cymru 2018

Dewch i gwrdd ag Emmie Price.

Bu’r 5 mlynedd ddiwethaf yn rhai stormus iddi. Mae ei byd yn cynnwys edrych ar ôl ei mam, sy’n dioddef o anhwylder deubegynol, dilyn diddordeb angerddol mewn corwyntoedd a gwneud yn sicr ei bod yn llwyddo yn yr ysgol. Ond, gwyr Emmie, un diwrnod y bydd popeth yn newid. Un diwrnod, mi fydd hi’n dilyn stormydd. . . yn America.

Pan fydd cyfle’n codi i dderbyn bwrsari i astudio yn UDA, a all hi gadw’i lle ar y cwrs ac ennill y gystadleuaeth STEM gyda’i dyfais newydd ar gyfer ynni adnewyddadwy?

Mae Theatr na nÓg, sydd wedi ennill llu o wahanol wobrau yn cyflwyno drama gerddorol wreiddiol sy’n siŵr o gyfareddu’r galon a’r meddwl. Lleolir y ddrama yng Nghymoedd Cymru ac mae iddi gerddoriaeth fywiog, sy’n tynnu ar elfennau Americana gan yr enillydd Gwobrau Grammy, Amy Wadge (Thinking Out Loud gydag Ed Sheeran, Un Bore Mercher) ac sydd yn cael ei pherfformio’n fyw, ar lwyfan gan gast o 8 o actorion a cherddorion dawnus.

Mae’r digwyddiad theatrig hwn llawn dewrder, penderfynoldeb a charedigrwydd yn siŵr o ysbrydoli oedolion o bob oed a theuluoedd sydd â phlant 8+ oed.

Nodwch ei fod yn gynhyrchiad Saesneg ei iaith.

*****
An A* top of the class new musical.
Buzz Magaine
Man dressed as a modern day American cowboy holding a guitar

Teithiodd y sioe i:

Caeredin, King's Theatre

Abertawe Theatr y Grand

Portsmouth, New Theatre Royal

Birmingham Hippodrome, Patrick Studio

Casnewydd Glan yr Afon 

Bangor, Pontio

Canolfan Celfyddydau Aberystwyth

Recordiwyd trac sain wreiddiol Amy Wadge o Eye of the Storm ar CD sydd ar gael o Theatr na nÓg.

Os hoffech chi brynu albwm, cysylltwch gyda ni ar yr ebost:
drama@theatr-nanog.co.uk 

Neu fe allwch chi lawrlwytho'r traciau ar iTunes ac Amazon neu gwrando ar Spotify.

Headshot of Amy Wadge

Mae'r ennillydd Grammy, Amy Wadge, yn un o chyfansoddwyr mwyaf llwyddiannus y Deyrnas Unedig. Llwyddiant mwyaf nodedig Amy hyd yn hyn yw ei pherthynas ysgrifennu hir dymor gyda Ed Sheeran. 'Thinking Out Loud', a ysgrifennwyd gan y ddau, oedd y trydydd trac o ail albwm Sheeran, X (Multiply), a gafodd ei enwebu am 3 Grammy. Aeth y trac i Rhif 1 yn y siart yn y DU ym mis Tachwedd 2014 ar ol gwario 19 wythnos yn y 'Top 40' - yn torri'r record am yr esgyniad hiraf i'r brig. Yn agosach i adref, mae Amy wedi ennill 'Best Female Artist' dwywaith yn y Welsh Music Awards - y tro cyntaf o flaen Charlotte Church, a'r ail dro o flaen Cerys Matthews. Yn fwy ddiweddar, mae Amy wedi swyno cynulleidfaoedd gyda'r trac sain i ddrama BBC, Un Bore Mercher.

Cast
Kieran Bailey
Mr Church / Chris / Drymiau / Allweddellau
Dan Bottomley
Walt / Bud / Gitar
Rosey Cale
Emmie / Gitar
Llinos Daniel
Angela / Telyn / Allweddellau
Caitlin McKee
Karen
Dan Miles
Lloyd / Gitar
Barnaby Southgate
Thomas / Allweddellau / Acordion / Gitar / Banjo
James William Pattison
Griff / Ched / Gitar
*****
What the world needs now.
Edinburgh Times
Cynhyrchiad
Geinor Styles
Awdur & Chyfarwyddwr
Amy Wadge
Cerddoriaeth & Geiriau
Mike Beer
Cynllunydd Sain
Gareth Brierly
Technegydd Sain Ymlaen Llaw
Paul Brown
Technegydd Fideo Ymlaen Llaw
Geraint Chinnock
Rheolwr Cynhyrchu
Jon Cox
Rheolwr Llwyfan Technegol
Carl Davies
Cynllunydd
Matt Gibson
Gweithredwr Sain
Elanor Higgins
Cynllunydd Goleuo
Mara Hoernschemeyer
Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol
Lefi Jones
Rheolwr Cynhyrchu Cynorthwyol
Daniel Lloyd
Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Alison Palmer
Rheolwr Llwyfan
Andy Pike
Cynllunydd Fideo
Maggie Rawlinson
Coreograffydd
Barnaby Southgate
Cyfarwyddwr & Threfnydd Cerdd
Stori weledol a chanllaw'r perfformiad (Saesneg)