Mae cân Nadoligaidd Gymraeg yn cael ei chyhoeddi heddiw, sef Hwyl yr Ŵyl. Mae'r gân a gyfansoddwyd gan Barnaby Southgate gyda geiriau gan Phylip Harries. Pwrpas y gân yw i godi arian i barhau â’r gwaith theatr i bobl ifanc ac i gefnogi weithwyr hunan-gyflogedig. Perfformiwyd Hwyl yr Ŵyl gan actorion Daniel Lloyd a Carys Gwilym. 

Mae Hwyl yr Ŵyl ar gael ar YouTube a SoundCloud ac anogir rhoddion neges destun o £5 + trwy anfon neges destun at TNN a'r swm yr ydych am ei roi i 70085. ee:

I roi £5, tecstiwch TNN5 i 70085.

Mae negeseuon testun yn costio gwerth eich rhodd ynghyd ag un neges cyfradd safonol. 

Am delerau ac amodau llawn ewch i Cefnogwch ni

Gyda theatrau ar gau a pherfformiadau byw yn gyfyngedig mae'r cwmni cynhyrchu theatr arobryn wedi gwario yr 8 mis diwethaf yn canolbwyntio ar gyflogi actorion, cynllunwyr, technegwyr ac ysgrifennwyr llawrydd i greu gwaith newydd mewn ffyrdd arloesol. Maent wedi cefnogi dros 100 o weithwyr llawrydd ar dros 16 o brosiectau ers mis Ebrill, yn cynnwys ddramau radio a chynyrchiadau ar-lein yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn ogystal a datblygu sioe gerdd roc newydd sbon.