Mae Ioan wedi gweithio fel actor ers 35 o flynyddoeddd. Ei sioe cynta’ i Theatr na nÓg oedd ‘Playing it by ‘ere’ ym 1991. Mae’r siwrne ers hynny wedi bod yn un llawn cyffro ac atgofion bythgofiadwy gyda digon o chwerthin a dagrau i lenwi mwy nag un lori. Mae cefnogaeth y cwmni dros y flwyddyn a hanner ddiwetha’ wedi atgyfnerthu'r gwerth a pharch tuag at y cwmni unigryw hwn.