Magwyd Tonya yn y Gŵyr, Abertawe, cyn mynd i hyfforddi yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Dros y blynyddoedd mae Tonya wedi gweithio'n helaeth yn y diwydiant fel actores, artist troslais, hyfforddwr actio, tiwtor, cyfarwyddwr a chyfarwyddwr castio yn Saesneg a Chymraeg. Mae ei huchafbwyntiau theatr yn cynnwys The Girl With The Incredibly Long Hair (We Made This) Our Country’s Good (Watermill, Newbury), The Crucible (Theatr Genedlaethol), Silas Marner (Theatr Clwyd), The Three Night Blitz (Swansea Grand), Cancer Time (Theatre 503), a'r brif ran yn Anne Frank (New Vic, Stoke). Mae ei huchafbwyntiau ffilm a theledu yn cynnwys Jamie Johnson (BBC), Lolipop (Boom Plant), Emmerdale (ITV), Casualty (BBC), Say My Name (Electric Entertainment) Wild Honey Pie (Unstoppable entertainment) And the Dark (Constantin Film).

Mae hi hefyd yn adnabyddus yng Nghymru fel y cymeriad rheolaidd Yvonne Evans yn Pobol y Cwm
Roedd hi'n falch iawn o gael cais i ymuno â'r Cymdeithion Creadigol yn na nÓg ar ôl gweithio iddyn nhw fel actores yn y Bluen Wen, Ysbryd y Pwll ac Anturiaethau Cadi ac Arwel. Mae hi'n edrych ymlaen yn fawr at yr anturiaethau nesaf gyda'r Cwmni.