Languages

Na nOg logo

Theatr NaNog

A’r enillydd yw… Theatr na nÓg!

Fis Mai, aeth Theatr na nÓg ar daith i Gaerdydd ar gyfer Gwobrau Arts & Business Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, lle roeddem wedi’n henwebu ar gyfer gwobr gyffrous.

Roedd ein prosiect Would You Jump? wedi’n gosod ni a’n cydweithwyr Awdurdod Harbwr Caerdydd a Phorthladd Aberdaugleddau yn y categori Celfyddydau, Busnes a’r Amgylchedd.

Rydym wrth ein bod i gyhoeddi ein bod wedi ennill y wobr, gyda’r holl feirniaid yn gytûn. Dechrau gwych i adfywio’r prosiect yn 2018 lle byddwn yn gweithio gyda mwy fyth o ysgolion a phobl ifanc ar draws De Cymru yr wythnos nesaf.

Dywedodd Arts & Business Cymru:

‘Gwnaeth y beirniaid ganmol Awdurdod Harbwr Caerdydd a Phorthladd Aberdaugleddau am eu gweledigaeth wrth gomisiynu drama i fynd i’r afael â her gyffredin. Noddodd y busnesau Theatr na nÓg i ddyfeisio a pherfformio drama a oedd yn codi ymwybyddiaeth o beryglon nofio a neidio i’r dŵr mewn ardaloedd morwrol prysur ym Mae Caerdydd ac Aberdaugleddau. Gweithiodd y cwmni theatr gyda disgyblion o flynyddoedd 6-8 yn y ddau leoliad, yn ogystal â rhoi perfformiadau cyhoeddus ar lannau’r dŵr. Gwelwyd Would you Jump? gan dros 1,000 o bobl ac adroddodd y ddau fusnes leihad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod Haf 2017. Roedd y prosiect mor llwyddiannus wrth hyrwyddo neges diogelwch dŵr allweddol mae’r noddwyr wedi cynyddu eu buddsoddiad ar gyfer 2018. Bydd hyn yn galluogi ail gam, yn cynnwys gweithdai ysgrifennu i ddisgyblion yng Nghaerdydd ac Aberdaugleddau, fydd yn datblygu dilyniant i’r ddrama wreiddiol. Cytunodd y beirniaid mai’r cywaith trawiadol hwn oedd yr enillydd amlwg yn y categori hwn.’

Cewch wybod rhagor am ein prosiect arobryn yma >>

Image: 

Gyda'ch cefnogaeth chi, gallen neud lot mwy.

Helpwch ni i danio dychymyg cenedl

With your support, we can do more.

Help us ignite the imagination of the nation

Mae Theatr na nÓg yn elusen gorfrestredig yng Nghmru a Lloegr
(515903) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warrant.
Theatr na nÓg is a charity registered in England and Wales
(515903) and a company limited by guarantee.

Copyright © Theatr NaNog.
Designed by Hoffi using Drupal