Languages

Na nOg logo

Theatr NaNog

Non Haf - am enw berffaith am wenynen

Fe wnaethon ni holi Non Haf am ei phrofiadau fel y wenynen gyfrifol yn y sioe ' Gwobr y Gwenyn Gwerthfawr', a dyma beth oedd ganddi i'w ddweud ..... a oes gyda chi gwestiwn i un o'n actorion?

Shwt mae'n mynd mor belled?

' Mae'n mynd yn dda diolch. Mae'r sioe i weld yn cael ymateb positif iawn. Gan ein bod mewn lleoliadau gwahanol bob dydd, dwi'n teimlo bod hynny'n cadw'r sioe yn ffresh i ni fel actorion. Mae hi wir yn hyfryd i weld ymateb y plant ir sioe.'

2: Beth yw'r peth gorau am eich cymeriad?
' Mae Bron yn chwareus iawn, ac mae na lawer o hwyl yn y sioe. Mae ei pherthynas gyda Byrti yn hyfryd - mi wnawn nhw unrhywbeth i'w gilydd! Ond Bron yn bendant ydi'r bos!!

3: Mae'n daith hir yn wyth wythnos o hyd - ydy'r gwenyn wedi blino?
' Mae na wastad adegau blinedig ar daith fel hon, yn enwedig gan nad ydw i'n cael cyfle i fynd adre yn aml. Ond mae ymateb y plant bob tro yn cadw pethau i fynd. Mae nhw mor frwdfrydig, ac mae hynny'n golygu fod rhaid i ni roi 100% bob tro hefyd. Rydan ni fel criw hefyd yn edrych mlaen i ymweld gyda theatrau a llefydd newydd.'

4: Beth sydd orau gyda ti am dy gymeriad? A'r peth gwaethaf?
' Dwi'n mwynhau'n fawr cael cyfarfod gyda'r plant. Dwi'n cofio un fam yn dod ata i eisiau llun ohona i gyda'r plentyn gan mai dyna'r tro cyntaf iddi fynd gyda'r ferch fach i'r theatr. Mae pethau felna'n aros efo chi!'
We Need Bees 2013 - 120

15th April 2013

Theatr na nÓg yn mynd yn fyw!

Mae'n fywiog a lliwgar – ac yn darlunio gwaith cyffrous y cwmni. Heddiw, (dydd Llun, Ebrill 15fed) bydd safle we newydd Theatr na nÓg - www.theatrnanog.co.uk yn mynd yn fyw! Yr esblygiad naturiol yma wnaeth weld y Cwmni yn ail-frandio, a gyda logo newydd a safle we newydd, bwriad gweithlu Theatr na nÓg yw denu cynulleidfaoedd newydd i weld y gwaith.

Gyda'ch cefnogaeth chi, gallen neud lot mwy.

Helpwch ni i danio dychymyg cenedl

With your support, we can do more.

Help us ignite the imagination of the nation

Mae Theatr na nÓg yn elusen gorfrestredig yng Nghmru a Lloegr
(515903) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warrant.
Theatr na nÓg is a charity registered in England and Wales
(515903) and a company limited by guarantee.

Copyright © Theatr NaNog.
Designed by Hoffi using Drupal