Ganed Yeota yn yr Almaen a symudodd i Gaerdydd pan oedd yn 4 oed.
Ar ôl graddio o Brifysgol Bournemouth gyda gradd Meistr mewn Cynhyrchu Teledu a Ffilm, treuliodd 10 mlynedd yn Islam Channel yn gweithio ei ffordd i fyny o Weithredydd Stiwdio i Bennaeth Rhaglennu Merched.
Cymerodd seibiant gyrfa byr a symud yn ôl i Gaerdydd, ddyddiau cyn i'r cyfnod clo ddechrau, a threuliodd 3 blynedd yn gweithio mewn cwmnïau cynhyrchu fel Cynhyrchydd Cynorthwyol, ar draws gwahanol gwmnïau annibynnol. Mae hi wedi gweithio ar rhaglenni dogfen ar gerddoriaeth a hanes, sioeau meddygol a choginio ar gyfer teledu rhwydwaith.
Mae hi bellach yn sianelu ei hegni a’i hangerdd wrth helpu i arallgyfeirio’r sector cyfryngau yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae Yeota yn gweithio gyda Media Cymru, Boom Cymru a Rondo Media, ac mae wedi helpu i ddatblygu cynllun hyfforddi, Y Fenter Drws Agored, ar gyfer newydd-ddyfodiaid i'r sector o gefndir economaidd-gymdeithasol is. Mae hi hefyd yn arwain ar raglen Dychmygwyr Ifanc UK Muslim Film lle mae hi a thîm o weithwyr proffesiynol y diwydiant yn cyflwyno gweithdai diwrnod cyfan i blant Blwyddyn 6 mewn ysgolion cynradd, ar stereoteipiau a dealltwriaeth o ragfarn anymwybodol a chreu cynnwys gyda’r offer diweddaraf.
Mae Yeota wrth ei bodd yn teithio, heicio a rhoi cynnig ar wahanol fwydydd. Ei hoff wyliau oedd saffari yn Zambia.
Mae’n falch iawn o fod ar Fwrdd Theatr na nÓg ac yn gobeithio dod â’i phrofiadau byw, gwybodaeth a chysylltiadau, i helpu i greu cynyrchiadau cyffrous pellach i blant trwy theatr, yng Nghymru.