Gan Geinor Styles
Mewn partneriaeth ag Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y
Glannau a Technocamps.
Ym mlwyddyn ein Brenhines, 1898. Fe'ch gelwir ar gyfer Gwasanaeth Rheithgor. Mae bachgen 14 oed wedi ei gyhuddo o botsian, lladrad a llofruddiaeth ar Stad Margam! Os ceir ef yn euog bydd yn cael ei ddedfrydu i ‘hongian o’i wddf nes ei fod wedi marw’. Mae'n gyfrifoldeb arnoch chi'r rheithgor i brofi'r bachgen ifanc hwn yn euog neu yn ddieuog. Byddwch yn clywed tystiolaeth, yn dyst i ddeddfiadau ac yn eistedd wrth galon y trafodion. Bydd disgwyl i chi ddefnyddio'ch rhesymu a phenderfynu pwy sy'n dweud celwydd a phwy, os oes unrhyw un, sy'n dweud y gwir.
Mae bywyd bachgen ifanc yn eich dwylo chi. Fel y rheithgor yn y ddrama hon, a fyddwch chi'n ei gael yn euog neu'n ddieuog?
Mae’r profiad Fictoraidd rhyngweithiol hwn yn gyfle unigryw i blant brofi theatr byw ar ffurf arloesol. Mae Theatr na nÓg yn un o gwmnïau theatr fwyaf cyffrous Cymru, a chyda Prawf Elgan Jones, mae’n addo gwthio’r gynulleidfa i wrando, ystyried a chydweithio cyn cyflwyno'r dyfarniad angenrheidiol.
Mae bywyd bachgen ifanc yn hongian yn y fantol; eu barn hwy fydd y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.
Perffaith ar gyfer Blwyddyn 5 i fyny
Mae ein pecynnau i ysgolion wedi’u cynllunio’n benodol i gwmpasu pob maes o’r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd, yn enwedig y Dyniaethau, Llythrennedd a Iechyd a Lles.
Y themâu craidd yw
- Ymchwilio a chymharu bywydau'r plant cyfoethog a’r plant tlawd yng Nghrymu yn ystod oes Fictoria.
- Cymryd rhan mewn trafodaeth, dadl a phenderfyniad, wrth ystyried y wybodaeth sydd wedi’u ddarparu ac i gael dealltwriaeth o’r canlyniadau yn sgil y penderfyniadau.
- Ystyried safbwyntiau gwahanol o ddadl wrth feddwl am ffactorau moesol, cymdeithasol ac economaidd.
YSGOLION GYNRADD
Ar gael o Ddydd Mawrth i Ddydd Gwener
Diwrnod cyfan o weithgareddau.
- Perfformiad o’r ddrama, ‘Prawf Elgan Jones’ yn Theatr Dylan Thomas
- Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r Cast
- Gweithdy am ddim yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau neu Amgueddfa Abertawe
- Adnoddau ar-lein am ddim yn gysylltiedig â themâu’r sioe
Bydd pob ysgol gynradd yn cael ei chynnwys mewn cystadleuaeth i ennill gweithdy côdio gan Technocamps yn rhad ac am ddim.
Bydd y diwrnod yn dechrau’n brydlon am 9.45am ac yn gorffen am 2.30pm (mae gennym ddiwrnod llawn dop ar eich cyfer felly peidiwch â bod yn hwyr!).
YSGOLION CYFUN
Ar gael ar Ddyddiau Llun neu diwrnodau eraill ar gais
Cyfle delfrydol i’r rhai sy’n astudio
Hanes TGAU - Bywyd yn ystod Yr Oes Fictoraidd
TGAU - Dehongli Drama
Dewch i weld y sioe a’r sesiwn Cwestiwn ac Ateb am 10am neu 1pm neu dewch am ddiwrnod cyfan:
- Perfformiad o’r ddrama, ‘Prawf Elgan Jones’ yn Theatr Dylan Thomas (1 awr)
- Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r Cast (20 munud)
- Amser i edrych o amgylch Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (dewisol)
- Adnoddau ar-lein am ddim yn gysylltiedig â themâu’r sioe.
Mae app Theatr na nÓg, a grëwyd gan athrawon a disgyblion, yn llawn adnoddau a chynlluniau gwersi i'ch helpu chi i adeiladu rhaglen waith ar gyfer eich tymor Gwanwyn.
Mae'r app yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio a gellir ei lawrlwytho i'ch ffôn neu dabled, ei ddefnyddio trwy borwr rhyngrwyd neu ei gysylltu â'ch bwrdd rhyngweithiol fel y gall pawb ddysgu mwy am y themâu yn y sioe.
Lawrlwythwch ein app yn yr app store nawr
Faint mae’n ei gostio?
Rydym yn derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a gan nifer o Ymddiriedolaethau a Sefydliadau tuag at gostau’r prosiect.
Byddwn yn defnyddio’r cyllid hwn er mwyn gostwng
y pris i chi, gan ei ostwng i
£7.50+TAW ar gyfer pob disgybl / oedolyn
yn ogystal ag un tocyn oedolyn am ddim gyda phob 10 disgybl.
Fel amod i’r cyllid hwn, mae angen i ni gasglu adborth gan bob cyfranogwr.
Er mwyn derbyn y pris gostyngol hwn, rydym yn gofyn am dri pheth:
1. Eich bod yn arwyddo’ch contract archebu a fydd
yn cael ei e-bostio atoch a’i ddychwelyd oddi fewn 7 diwrnod o’i dderbyn.
2. Eich bod yn cwblhau arolwg syml, ar-lein oddi fewn i 10 diwrnod o’ch ymweliad.
3. Eich bod yn talu’ch anfoneb oddi fewn 60 diwrnod wedi’ch ymweliad.
Byddwn yn anfon negeseuon atoch i’ch atgoffa, felly does ddim angen i chi boeni am anghofio gwneud hyn.