A ydych chi erioed wedi clywed am Berti druan - y wenynen gyfeillgar sydd bob amser yn gweithio’n galetach na’i gyfoedion mewn cwch gwenyn prysur? Byddai gwell gan Berti dreulio ei ddiwrnodau’n peillio blodau gwyllt na pheillio hen afalau diflas.
Mewn eiliad o wrthryfel, mae e’n gadael y cwch gwenyn ac yn penderfynu dilyn ei galon yn hytrach na’r rheolau ac mae e’n mynd i’r goedwig i chwilota am flodau. Ond nawr mae ei ffrindiau mewn trafferth! Rhaid i Berti fod yn ddewr. A fydd e'n llwyddo ac yn achub ei ffrindiau?
Mae profiad helaeth Theatr na nÓg dros y degawdau yn creu theatr i blant ar ei gorau ac yn dod â’r stori ddychmygol yma yn fyw gyda chymeriadau cariadus sionc a cherddoriaeth wreiddiol brydferth.
Teithiodd y cynhyrchiad yma i:
Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron
Courtyard, Henffordd
The Albany, Llundain
Neuadd y Glowyr, Rhydaman
Theatr Soar, Merthyr Tudful
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Stafford Gatehouse Theatre
Neuadd Goffa, Y Barri
Neuadd Les, Ystradgynlais
Assembly Rooms, Llwydlo
New Wolsey Studio, Ipswich
Norwich Arts Centre
Taliesin, Abertawe
Ffwrnes, Llanelli
Mercury Theatre, Caercolyn
Neuadd Gwyn, Castell-nedd
Roses Theatre, Tewkesbury
Gardyne Theatre, Dundee
Canolfan Mileniwm Cymru
Lighthouse Poole
The Hawth, Crawley
Torch Theatre
Savoy Theatre, Trefynwy
Beaufort Theatre
Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Galeri, Caernarfon
I weld mwy o luniau o'r cynhyrchiad - cliciwch yma