Bydd dau wyddonydd Fictoraidd yn cyrraedd eich ysgol gan baratoi i fynd ar eu taith i ddarganfod yr Amason anchwiliedig.
Tra eu bod yn adrodd eu hanes, caiff y plant y cyfle o fentro ar daith eu hunain a darganfod rhywbeth newydd a rhyfeddol.
Bydd y digwyddiad byw a rhyngweithiol yma o ddweud stori yn rhoi cyfle i'r plant i rannu eu profiadau gyda'u cyfoedion, a rhoi gwell dealltwriaeth iddyn nhw o'r bywyd naturiol sydd o'u hamgylch.
Unwaith yn rhagor, bydd Theatr na nÓg yn dod â stori hyfryd a fydd yn hudo cynulleidfaoedd ifanc ac a fydd yn ysbrydoli meddyliau ifanc.
Yn ogystal â'r perfformiad, bydd yr actorion yn mynd â'r gynulleidfa ar daith allan o'r ystafell ddosbarth er mwyn darganfod rhywbeth newydd.
Mae'r cynhyrchiad hon i ysgolion.



I weld mwy o luniau o'r cynhyrchiad - cliciwch yma