Cynhyrchiad ar y cyd rhwng Theatr na nÓg a Theatr Brycheiniog.
Mae Gwarchod y Gwenyn gan Katherine Chandler, yn adrodd stori’r hyn sy’n digwydd pan fydd y gwanwyn wedi deffro ac mae’r holl fywyd gwyllt anhygoel yn dihuno ar ôl gaeaf hir ac oer, gan gynnwys ein cyfaill Bron, y wenynen fêl. Ymunwch â hi a’i chyfeillion gwych wrth iddi rannu’i hanturiaethau cyffrous o beillio byd rhyfeddol y blodau a’r planhigion. Cawn gyfarfod â hen ffrind Bron, Bertie Bee, ar waelod pentwr y cwch gwenyn prysur. Mae’n treulio’i ddyddiau’n peillio hen afalau diflas, er y byddai’n llawer gwell ganddo fod yn rhydd i beillio blodau gwylltion yn lle. Mewn eiliad o wrthryfel, mae’n gadael y cwch gwenyn, gan roi’r holl haid mewn perygl – gan gynnwys ei ffrind gorau Bron. Nawr rhaid i Bertie fod yn ddewr. Beth fydd yn digwydd nesaf? Pwy yw’r Cranc-Gorryn dirgel? A fydd Bertie’n llwyddo ac yn achub ei ffrindiau? Gyda cherddoriaeth fyw a gyfansoddwyd gan Barnaby Southgate.
Perfformiwyd fel prawf awyr agored i Lywodraeth Cymru yn Mehefin 2021 ar Gae Chwarae’r Brenin Siôr V, Aberhonddu.
Noddwyd gan Project Partners Stage Lighting Services, Calibre Connections, a Llanfaes Dairy.