1. Yr hyn y mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ei gwmpasu

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch pryd a pham mae Theatr na nÓg yn casglu eich gwybodaeth bersonol, sut yr ydym yn ei defnyddio a sut yr ydym yn ei chadw’n ddiogel. Yn gryno, mae angen i chi rannu gwybodaeth bersonol gyda ni dim ond pan fyddwch yn dewis gwneud hynny – ni fyddwn byth yn ei chymryd heb ofyn, nac yn ei defnyddio ar gyfer unrhyw beth lle nad ydych wedi rhoi caniatâd i ni. Rydym hefyd yn credu bod parodrwydd i rannu gwybodaeth yn gweithio dwy ffordd. Os ydych am wybod rhagor amdanom ni neu os ydych am gysylltu, rydym wedi gwneud yn siŵr y gallwch wneud hynny yn hawdd.

Theatr na nÓg, Uned 3, Ystâd Ddiwydiannol Ffordd Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ
drama@theatr-nanog.co.uk | 01639 641771

Mae Theatr na nÓg yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (515903) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant (1856580). Theatr na nÓg yw rheolydd eich gwybodaeth bersonol.
 
2. Pryd y byddwch chi’n rhannu gwybodaeth gyda ni?

Yn gyffredinol, rydym yn casglu eich gwybodaeth pan fyddwch yn penderfynu rhyngweithio â ni. Gallai hyn gynnwys pan fyddwch chi'n cofrestru i dderbyn negeseuon e-bost gennym ni, yn ymuno â’n cynllun Llysgenhadon Ifanc neu’n archebu gyda ni. Weithiau gallech ofyn i leoliad rannu eich gwybodaeth gyda ni wrth i chi archebu. Rydym hefyd yn defnyddio Google Analytics i gasglu darnau bach o ddata o'r enw 'cwcis' pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan. Mae’r rhain yn ein helpu i ddeall sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan, a beth sy'n gweithio (neu beidio) i’n hymwelwyr, fel y gallwn wella ein profiad defnyddiwr yn barhaus.

Dyma restr gyflawn o sut rydym yn casglu gwybodaeth ar-lein, yn bersonol a thros y ffôn:

- Pan fyddwch yn archebu’n uniongyrchol gyda ni ac nid trwy wefan lleoliad
- Pan fyddwch yn rhoi rhodd
- Cofrestru i gael mynediad at ein hadnoddau dysgu ar-lein
- Cofrestru fel un o'n Llysgenhadon Ifanc
- Gofyn i leoliad rannu eich gwybodaeth gyda ni wrth i chi archebu.
- Cofrestru i dderbyn ein newyddlenni
- Ymweld â 'n gwefan neu lawrlwytho ein app
- Cofrestru ar gyfer rhestri diddordeb arbennig, e.e. i glywed am ein hadnoddau addysgu neu berfformiadau hygyrch, neu gymryd rhan mewn arolygon, grwpiau ffocws a chystadlaethau.
 
3. Y mathau o wybodaeth rydym yn ei defnyddio

Rydym ond yn casglu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i gynnal ein busnes, darparu’r gwasanaeth penodol yr ydych wedi gofyn amdani a rhoi gwybodaeth i chi. Mae achlysuron lle y gallwch ddewis peidio â rhoi gwybodaeth benodol i ni, ond gallai hyn, er enghraifft, gyfyngu ar y lefel o bersonoli yr ydym yn ei chynnig, e.e. efallai na chewch glywed am ddigwyddiad y byddech wedi mwynhau mynd iddo.

Mae'r math o wybodaeth a gasglwn yn dibynnu ar ble a phryd y caiff ei chasglu:

Gwybodaeth yr ydym yn ei chael yn uniongyrchol gennych chi:

Pan fyddwch yn dechrau trafodiad uniongyrchol gyda ni neu'n cofrestru ar gyfer un o’n rhestri marchnata, mae angen i ni gasglu gwybodaeth gennych chi er mwyn darparu’r gwasanaeth yr ydych yn gwneud cais amdano.

Efallai y byddwn yn casglu:
- Teitl ac enw
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif(au) ffôn cyswllt
- Cyfeiriad
- Dewisiadau personol (megis p'un a hoffech gael gwybodaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg, a pha fath o wybodaeth yr hoffech ei derbyn)

Yn dibynnu ar beth yr ydych yn archebu ar ei gyfer, gallem hefyd gasglu:
- Enw'r ysgol (os yn archebu ar ran ysgol)
- Dyddiad geni

Wrth ymweld â'n gwefan neu ddefnyddio ein app gallem gasglu'r wybodaeth a ganlyn:
- Cyfeiriad IP a lenwir yn awtomatig: mae cyfeiriad IP cyhoeddus yn rhif unigryw sy'n caniatáu i gyfrifiadur, grŵp o gyfrifiaduron neu ddyfais arall sydd wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd i bori'r rhyngrwyd. Mae'r ffeil log yn cofnodi amser a dyddiad eich ymweliad, y tudalennau y gwnaed cais amdanynt, y wefan atgyfeirio (os darperir) a fersiwn eich porwr rhyngrwyd. Cesglir y wybodaeth hon i helpu i wneud diagnosis a rheoli’r wefan, i archwilio cyfansoddiad daearyddol defnyddwyr, ac i wybod sut daethon nhw at y wefan.
- Cwcis: mae offeryn dadansoddi gwefan trydydd parti, Google Analytics, yn casglu data dienw (ar gyfraddau cliciau, ac ati) pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan. Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google Analytics am ragor o wybodaeth am yr hyn y maent yn ei chasglu a sut y maent yn ei diogelu.

Gwybodaeth yr ydym yn ei chael yn anuniongyrchol:

Gallai eich gwybodaeth gael ei rhannu gyda ni gan sefydliadau annibynnol, er enghraifft gan leoliadau lle yr ydych yn gweld ein gwaith. Bydd y sefydliadau annibynnol hyn dim ond yn trosglwyddo gwybodaeth sydd ei hangen i gwblhau contract a/neu pan fyddwch wedi nodi eich caniatâd. Dylech wirio eu Hysbysiad Preifatrwydd pan fyddwch yn darparu eich gwybodaeth i ddeall yn llawn sut y byddant yn prosesu ac yn diogelu eich data.

Gallem gyfuno gwybodaeth yr ydych wedi’i rhoi i ni gyda gwybodaeth ychwanegol sydd ar gael o ffynonellau allanol. Caiff hyn ei wneud dim ond pan fyddwch yn rhoi caniatâd i’r sefydliadau trydydd parti perthnasol i rannu’r data sydd ganddynt amdanoch chi, neu os yw'r data eisoes ar gael i'r cyhoedd.
 
4. Sut y defnyddir eich gwybodaeth

Bydd y wybodaeth sydd gennym amdanoch yn cael ei defnyddio dim ond i ddarparu gwasanaeth yr ydych wedi gofyn amdano, i roi gwybod i chi am ddigwyddiadau neu ddiweddariadau newyddion yr ydych wedi gofyn amdanynt, neu i gysylltu â chi os bydd angen i ni gael neu ddarparu gwybodaeth ychwanegol (e.e. newidiadau i gastiau).

Yn benodol, caiff eich gwybodaeth ei defnyddio yn y ffyrdd canlynol:

I gynnal ein busnes a darparu gwasanaeth neu i ymgymryd â chontract gyda chi:
- I gyflawni ceisiadau am docynnau, rhoddion neu danysgrifiadau (gan gynnwys diolch i chi am roi rhodd)
- Prosesu taliadau. Nid yw Theatr na nÓg yn storio unrhyw wybodaeth am daliadau ar ôl cwblhau'r trafodiad.
- I'n helpu gyda gweinyddiaeth fewnol.
- I gysylltu â chi gyda gwybodaeth bwysig yn ymwneud ag archebu neu brynu, megis cadarnhau eich archeb neu ddarparu gwybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod eich profiad yn un hwylus.

Lle mae gennym eich caniatâd:
- I anfon diweddariadau drwy e-bost, post neu ffôn am ein prosiectau, sut y gallwch ymgysylltu â hwy a’u cefnogi, ynghyd â chynigion a newyddion. Gallai hyn gynnwys anfon diweddariadau ar bwnc penodol yr ydych wedi gofyn am glywed mwy amdano, fel perfformiadau hygyrch neu adnoddau i athrawon.

Lle mae gennym reswm cyfiawnadwy (gan gynnwys rhwymedigaeth gyfreithiol a diddordeb dilys):
- Arsylwi eich diddordebau a’r dewisiadau a’u defnyddio i'n helpu i wneud yn siŵr bod y cyfathrebu marchnata a gewch gennym ni yn berthnasol i chi.
- Ar gyfer dosbarthu ein cynulleidfaoedd a chyfranogwyr i grwpiau neu segmentau, gan ddefnyddio gwybodaeth am archebion a gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd. Mae’r segmentau hyn yn ein helpu i ddeall ein cynulleidfa yn well a sicrhau ein bod yn anfon negeseuon perthnasol at bob grŵp.
- Mesur a deall sut mae ein cynulleidfaoedd yn ymateb i amrywiaeth o weithgarwch marchnata fel y gallwn sicrhau bod ein gweithgarwch yn cael ei dderbyn gyda diddordeb a’i fod yn berthnasol ac yn effeithiol.
- Cynnal ymchwil defnyddwyr: Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn i chi gymryd rhan mewn ymchwil defnyddwyr naill ai drwy arolwg ar-lein neu dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Nid oes unrhyw orfodaeth arnoch i gymryd rhan mewn ymchwil, ac os byddwch yn rhoi unrhyw wybodaeth bellach, bydd Theatr na nÓg yn rhoi gwybod i chi sut y defnyddir unrhyw wybodaeth bellach.
- Dadansoddi’r gwasanaethau a gynigiwn a’u gwella'n barhaus gan gynnwys ein hallbwn artistig, ein gwefan, app a chynhyrchion eraill.
- Ymgymryd â diwydrwydd dyladwy i ganfod a lleihau twyll a risg credyd.
 
5. Pwy sydd ganddynt fynediad i ba ddata?

Ni fydd Theatr na nÓg byth yn gwerthu neu fasnachu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti. Bydd Theatr na nÓg yn rhannu eich data dim ond mewn amgylchiadau lle rydych wedi rhoi eich caniatâd a lle mae rhannu data yn angenrheidiol ar gyfer cynnig profiad hwylus i chi. Er enghraifft gallem roi i leoliad restr o enwau a rhifau ffôn athrawon sy’n gysylltiedig ag archeb ysgol fel y gellir olrhain y rhai sy’n cyrraedd yn hwyr neu ddychwelyd eiddo coll. Mae'r holl leoliadau yr ydym yn gweithio gyda hwy yn ymrwymo i gytundeb yn nodi na fyddant yn defnyddio data Theatr na nÓg at ddibenion marchnata.

Efallai y bydd gan rai o'n darparwyr gwasanaeth fynediad at eich data er mwyn cyflawni gwasanaethau ar ein rhan – mae prosesu taliadau yn enghraifft dda o hyn. Rydym yn gwneud yn siŵr bod unrhyw un sy'n darparu gwasanaeth ar gyfer Theatr na nÓg yn ymrwymo i gytundeb gyda ni ac yn bodloni ein safonau ar gyfer diogelwch data. Ni fyddant yn defnyddio eich data ar gyfer unrhyw beth heblaw'r diben clir sy'n ymwneud â’r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu.

Gallem rannu eich manylion gyda’r canlynol:
- Darparwyr gwasanaeth sy'n gweithio ar ran Theatr na nÓg i gyflawni unrhyw gontract yr ydym yn ymrwymo iddo gyda nhw neu gyda chi, er enghraifft prosesu taliadau a rhoddion, argraffwyr a thai postio, asiantaethau marchnata, gwasanaethau cynnal gwefannau neu wasanaeth dosbarthu e-bost.
- Sefydliadau eraill fel trefnwyr cystadlaethau os ydych yn dewis cymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath y mae angen eu gweinyddu gan drydydd parti a’ch bod yn dewis optio i mewn o ran cael gohebiaeth gan y sefydliadau hynny.
- Pryd y bo’n ofynnol (er enghraifft, os yw’n ofynnol yn ôl yr egwyddorion 'adnabod eich rhoddwr' o dan gyfraith elusennau neu orchymyn llys), neu ar gais yr heddlu neu awdurdod rheoleiddio neu lywodraeth sy’n ymchwilio i weithgareddau anghyfreithlon.

Nid yw Theatr na nÓg yn gyfrifol am hysbysiadau ac arferion preifatrwydd gwefannau eraill hyd yn oed os eir atynt trwy ddefnyddio lincs o www.theatr-nanog.co.uk, ac mae’n argymell eich bod yn gwirio hysbysiadau pob gwefan yr ydych yn ymweld â hi ac yn cysylltu â’i pherchennog neu’r Rheolwr Diogelu Data os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau. Er gwaethaf ein holl ragofalon, nid yw unrhyw achosion o drosglwyddo data dros y rhyngrwyd 100% yn ddiogel. Felly, ni allwn warantu diogelwch unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei datgelu i ni ac felly dymunwn dynnu eich sylw at y ffaith mai chi fydd yn gyfrifol am unrhyw ganlyniadau.
 
6. Sut rydym yn diogelu rhag achosion o dorri data

Mae Theatr na nÓg wedi ymrwymo i ddiogelu’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei hymddiried i ni. Rydym yn defnyddio technolegau a pholisïau cadarn a phriodol, felly mae’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi wedi’i diogelu rhag mynediad heb awdurdod a defnydd amhriodol e.e. mae unrhyw negeseuon e-bost sy'n cynnwys data wedi'u hamgryptio ac mae ein rhwydwaith ein hun wedi’i diogelu.

Fel rhan o'r gwasanaethau a gynigir i chi drwy wefan Theatr na nÓg, gellir trosglwyddo’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych i wledydd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Er enghraifft, gallai hyn ddigwydd os lleolir unrhyw weinyddion cyfrifiaduron a ddefnyddir i gynnal y wefan mewn gwlad y tu allan i'r AEE. Os yw Theatr na nÓg yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i'r AEE yn y modd hwn, byddwn yn cymryd camau i sicrhau bod eich hawliau preifatrwydd yn parhau i gael eu diogelu fel yr amlinellir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth dim ond am ba bynnag gyfnod sy'n rhesymol angenrheidiol at y dibenion sydd wedi'u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn ac i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol. Ni fyddwn yn cadw mwy o wybodaeth nag sydd ei hangen arnom. Bydd y cyfnod cadw yn amrywio yn ôl y diben, er enghraifft os ydych yn prynu tocyn yn unig, byddwn fel arfer yn cadw eich data am hyd at ddeng mlynedd o ddyddiad eich trafodiad diwethaf. Am ragor o wybodaeth ynghylch am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a nodir yn yr hysbysiad hwn.

Os ydych yn gofyn i ni roi'r gorau i anfon cyfathrebu marchnata uniongyrchol atoch, byddwn yn cadw'r isafswm gofynnol o wybodaeth (e.e. enw, cyfeiriad neu gyfeiriad e-bost) i sicrhau ein bod yn cadw at geisiadau o'r fath.
 
7. Eich hawliau

Mae eich data yn eiddo i chi ac rydych yn eu rheoli’n llawn. Fel y cyfryw, dylai fod yn hawdd i chi gael mynediad at yr wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw arnoch a’i diwygio, neu i ofyn eich bod yn stopio cysylltu â chi.

Os ydych ar ein rhestr bostio, gallwch newid eich manylion personol a'ch dewisiadau cyswllt e-bost ar unrhyw adeg. Cliciwch ar 'newid fy newisiadau' ar waelod unrhyw e-bost rydym wedi'i hanfon atoch chi a dilyn y cyfarwyddiadau. Yn yr un modd, os hoffech chi beidio â derbyn unrhyw wybodaeth farchnata o gwbl mwyach, cliciwch y linc 'dad-danysgrifio'. Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy ffonio, anfon e-bost neu ysgrifennu gan ddefnyddio'n manylion cyswllt isod.

Os hoffech weld pa wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch chi, gallwch ofyn am fanylion llawn yr wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw amdanoch chi o dan y UK Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol trwy gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data. Anfonwch ddisgrifiad o’r wybodaeth yr hoffech ei gweld, ynghyd â phrawf adnabod at drama@theatr-nanog.co.uk

Ar unrhyw adeg mae gennych yr hawl i ofyn i Theatr na nÓg ddiwygio neu roi'r gorau i sut mae'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol, gan gynnwys at ddibenion marchnata, gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. Gallwch hefyd ofyn i ni gael gwared ar yr wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chadw amdanoch chi. Yn ogystal, mae gennych yr hawl i gael yr wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch wedi’i chywiro. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cywirdeb eich data personol, rhowch wybod i ni.

Trwy e-bost: drama@theatr-nanog.co.uk
Dros y ffôn: 01639 641771
Drwy'r post: Theatr na nÓg, Uned 3, Ystâd ddiwydiannol Ffordd Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ

Os bydd angen, mae gennych yr hawl hefyd i gyflwyno cwyn i’r awdurdod goruchwylio, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – www.ico.org.uk
 
8. Cadw ar y blaen o ran cydymffurfio
Diweddarwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ar 10 Mai 2018. Efallai y caiff ei ddiweddaru mewn perthynas â newidiadau yn Theatr na nÓg neu i adlewyrchu newidiadau i ffactorau allanol fel rheoliadau neu ddeddfwriaeth.

Caiff diweddariadau i'r hysbysiad hwn eu rhoi ar y ddogfen hon – mynnwch olwg arni o bryd i'w gilydd. Efallai y byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau lle mae gennym gyfeiriad e-bost priodol ar eich cyfer.

Ceir rhagor o wybodaeth am reoliadau a chyfreithiau diogelu data yma:
Diogelu Data: https://ico.org.uk/for-the-public
Rheoleiddiwr codi arian: www.fundraisingregulator.org.uk/code-of-fundraising-practice/code-of-fun...