"Mae Theatr na nÓg yn croesawu Blaenoriaethau Diwylliant Llywodraeth Cymru. Fel cwmni sy’n gweithio ar draws y sector, gan bartneru ag amgueddfeydd a grwpiau treftadaeth lleol ochr yn ochr â’n gwaith helaeth ar gyfer ysgolion, mae’n galonogol gweld cynnydd gan y llywodraeth yn y maes hwn.

Dathlodd Theatr na nÓg, sydd wedi’i lleoli yng Nghastell-nedd Port Talbot, ein pen-blwydd yn 40 y llynedd ac rydym yn ymwybodol iawn o sut mae diwylliant yn rhan annatod o’n cymunedau ac o’r effaith y mae theatr yn cael ar ein cynulleidfaoedd ifanc. Rydym yn cytuno’n llwyr â’r angen “i ddarparu profiadau diwylliannol i bob plentyn a pherson ifanc”. Ethos craidd ein cwmni yw darparu theatr hygyrch o safon uchel. Yn ddiweddar roeddem yn falch o gael ein crybwyll gan ein cynrychiolydd Senedd Sioned Williams AS yn y ddadl am y strategaeth, gan amlygu ein cynhyrchiad diweddar Just Jump / Y Naid a’r effaith y mae’r ddrama wedi’i chael ar bobl ifanc.

Fodd bynnag, mae goblygiadau cost i gynnal yr ansawdd uchel hwnnw, ac mae’r gost hyn wedi cynyddu’n aruthrol dros y 5 mlynedd diwethaf. Felly, mae buddsoddiad ychwanegol mewn theatr i gynulleidfaoedd ifanc o ardaloedd economaidd-gymdeithasol fel ein un ni yma yn Ne Orllewin Cymru yn beth cadarnhaol. Rydym yn aros am fanylion yr £8 miliwn mewn cyllid cyfalaf strategol, ac rydym wedi ein calonogi gan y buddsoddiad ychwanegol ar gyfer theatrau a lleoliadau perfformio; mae'n fantais anuniongyrchol i ni fel cwmni cynhyrchu teithiol, gan sicrhau bod gan ein lleoliadau adnoddau gwell a'u bod yn hygyrch i bawb.

Eleni rydym wedi cymryd amser i deithio ledled Cymru a chwrdd â theatrau i siarad am y materion y maent yn eu hwynebu. Yr hyn a ddaeth i'r fei oedd sector a oedd wedi'i flino gan ddiffyg adnoddau, yn wynebu costau cynyddol na ellir eu cyfateb gan brisiau tocynnau na lefelau ariannu cyfredol. Mae’r uchelgais a’r brwdfrydedd yno o hyd, ond mae’n waith caled. Mae angen buddsoddiad hirdymor yn y celfyddydau o hyd er mwyn symud y strategaeth ddiwylliant arfaethedig yn ei blaen.

Mae Theatr na nÓg yn aelod o Creu Cymru sydd wedi bod yn eiriol yn ddiflino dros y celfyddydau, gan ddeisebu Llywodraethau Cymru a’r DU i flaenoriaethu diwylliant. Hoffem ddiolch iddynt am eu gwaith yn ein cynrychioli ni ac aelodau eraill. Adlewyrchir eu hymdrechion yn y strategaeth hon ac edrychwn ymlaen at weld pa gynlluniau sy'n deillio ohoni."

Datganiad gan Rachel Fryer, Rheolydd Cyffredinol