Mewn partneriaeth â Technocamps
Y Sioe orau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc – Gwobrau Theatr Cymru 2018
Dewch i gwrdd ag Emmie Price.
Bu’r 5 mlynedd ddiwethaf yn rhai stormus iddi. Mae ei byd yn cynnwys edrych ar ôl ei mam, sy’n dioddef o anhwylder deubegynol, dilyn diddordeb angerddol mewn corwyntoedd a gwneud yn sicr ei bod yn llwyddo yn yr ysgol. Ond, gwyr Emmie, un diwrnod y bydd popeth yn newid. Un diwrnod, mi fydd hi’n dilyn stormydd. . . yn America.
Pan fydd cyfle’n codi i dderbyn bwrsari i astudio yn UDA, a all hi gadw’i lle ar y cwrs ac ennill y gystadleuaeth STEM gyda’i dyfais newydd ar gyfer ynni adnewyddadwy?
Mae Theatr na nÓg, sydd wedi ennill llu o wahanol wobrau yn cyflwyno drama gerddorol wreiddiol sy’n siŵr o gyfareddu’r galon a’r meddwl. Lleolir y ddrama yng Nghymoedd Cymru ac mae iddi gerddoriaeth fywiog, sy’n tynnu ar elfennau Americana gan yr enillydd Gwobrau Grammy, Amy Wadge (Thinking Out Loud gydag Ed Sheeran, Un Bore Mercher) ac sydd yn cael ei pherfformio’n fyw, ar lwyfan gan gast o 8 o actorion a cherddorion dawnus.
Mae’r digwyddiad theatrig hwn llawn dewrder, penderfynoldeb a charedigrwydd yn siŵr o ysbrydoli oedolion o bob oed a theuluoedd sydd â phlant 8+ oed.
Nodwch ei fod yn gynhyrchiad Saesneg ei iaith.
An A* top of the class new musical.
![Set of an open sided caravan with a neon cactus, colourful sunset and a school girl playing the guitar](/sites/default/files/styles/carousel/public/2021-07/EOTS%20tour%204.jpg?h=5ee5348d&itok=uXM59ws0)
![Pupils in the science room conducting an experiment to make an artificial tornado](/sites/default/files/styles/carousel/public/2021-07/EOTS%20tour%206.jpg?h=728a69fb&itok=_uECpnv_)
![The band in silhouette](/sites/default/files/styles/carousel/public/2021-07/EOTS%20tour%201.jpg?h=0db4857a&itok=K5wcUE_o)
![Actor holding a guitar in a pose with one arm in the air](/sites/default/files/styles/carousel/public/2021-07/EOTS%20tour%202_0.jpg?h=5b09ca3a&itok=d8WWfQQl)
![Classroom scene with four pupils sat at science tables and the teacher at the front of the class](/sites/default/files/styles/carousel/public/2021-07/EOTS%20tour%205.jpg?h=483c97f9&itok=N0DR68Br)
![A projection of a petrol station with a counter and young boy behind it](/sites/default/files/styles/carousel/public/2021-07/EOTS%20Tour%203.jpg?h=fe6ecbda&itok=I8Y00TrU)
![A woman standing in though, wearing a pink tabard with a pink neon light behind](/sites/default/files/styles/carousel/public/2021-07/EOTS%20tour%207.jpg?h=0025b17c&itok=0SOxnsIg)
![Three people at a table, one dressed as a cowboy, one in a yellow rain mac and a school girl cleaning the table between them.](/sites/default/files/styles/carousel/public/2021-07/EOTS%20tour%208.jpg?h=5b09ca3a&itok=xfgQdZnQ)
![Man dressed as a modern day American cowboy holding a guitar](/sites/default/files/styles/teaser/public/2021-07/fullsizeoutput_4407.jpeg?itok=8OSrmjAm)
Teithiodd y sioe i:
Caeredin, King's Theatre
Abertawe Theatr y Grand
Portsmouth, New Theatre Royal
Birmingham Hippodrome, Patrick Studio
Casnewydd Glan yr Afon
Bangor, Pontio
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
![Headshot of Amy Wadge](/sites/default/files/styles/teaser/public/2021-07/Amy%20Wadge%20Headshot.jpeg?itok=hCBAzapM)
Mae'r ennillydd Grammy, Amy Wadge, yn un o chyfansoddwyr mwyaf llwyddiannus y Deyrnas Unedig. Llwyddiant mwyaf nodedig Amy hyd yn hyn yw ei pherthynas ysgrifennu hir dymor gyda Ed Sheeran. 'Thinking Out Loud', a ysgrifennwyd gan y ddau, oedd y trydydd trac o ail albwm Sheeran, X (Multiply), a gafodd ei enwebu am 3 Grammy. Aeth y trac i Rhif 1 yn y siart yn y DU ym mis Tachwedd 2014 ar ol gwario 19 wythnos yn y 'Top 40' - yn torri'r record am yr esgyniad hiraf i'r brig. Yn agosach i adref, mae Amy wedi ennill 'Best Female Artist' dwywaith yn y Welsh Music Awards - y tro cyntaf o flaen Charlotte Church, a'r ail dro o flaen Cerys Matthews. Yn fwy ddiweddar, mae Amy wedi swyno cynulleidfaoedd gyda'r trac sain i ddrama BBC, Un Bore Mercher.
What the world needs now.