Wedi graddio o LAMDA, mae Mali wedi gweithio'n helaeth ym maes theatr a theledu.
Mae credydau mwyaf diweddar Mali yn cynnwys: Hidden/Craith ar gyfer Severn Screen, Gwrach y Rhibyn ar gyfer Boom Cymru, Amgueddfa ar gyfer S4C, Jamie Johnson ar gyfer Short Form Productions/CBBC, 15 Days ar gyfer Channel 5/Boom Cymru, Age of Outrage ar gyfer BBC Wales, Missing/Ar Goll ar gyfer ITV/S4C, Merched Parchus ar gyfer ieie Productions, 35 Diwrnod ag Amser Maith yn ôl ar gyfer Boom Cymru/S4C, Will ar gyfer Ninth Floor UK Productions, Gwaith Cartref ar gyfer Fiction Factory a Nyrses ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru.
Cafodd Mali ei henwebu am Bafta Cymru yn y categori Actores Gorau ar gyfer ei phortread o Nia yn 35 Diwrnod (Boom Cymru.)
Fel awdur, mae credydau Mali yn cynnwys: Cyd-ysgrifennu Yr Arandora Star ac Ysbryd y Pwll gyda Geinor Styles. Addasiadau radio o: Yr Arandora Star, Abertawe'n Fflam, Y Gelyn Cudd ar gyfer Theatr na nÓg. Taff Tales, profiad stori rhyngweithiol i Yellobrick a Sustrans. Nyrs Smith, ffilm fer ar gyfer 'It's my shout'.