Llun gan Sian Trenberth Photography

Yn enedigol o Fangor ond bellach wedi ymgartrefu’n Abertawe, graddiodd Manon o Brifysgol Manceinion gan ddychwelyd i Gymru i weithio fel actor gyda chwmniau Bag and Baggage, Hwyl a Fflag, ac, am flynyddoedd, fel un o sylfaenwyr Theatr Gorllewin Morgannwg yn teithio led-led Cymru gyda chynyrchiadau llwyddiannus y cwmni. Yn ddiweddarach ymddangosodd mewn sawl cynhyrchiad theatr gyda Clwyd Theatr Cymru, Frapetsus a Cwmni 3D, ar y teledu yn The Bench (BBC), fel DI Williams yn Pobol y Cwm (BBC) a Talking to the Dead (Sky); a ffilmiau yn cynnwys Perthyn (Llifon) Streic (BBC) Lois (Eryri) Nice Girls (BBC) ac Ar y Tracs (Green Bay).  Buodd yn un o gyflwynwyr Y Clwb Garddio (Cenad) am bron i ddegawd.

I deledu ysgrifennodd Manon y gyfres Y Stafell Ddirgel (Llifon); Treflan (Alfresco); gan sgriptio a storio ar Gwaith Cartre (Fiction Factory). I’r llwyfan, addasodd nofelau Alexander Cordell - y Cordell Triolgy - i Clwyd Theatr Cymru, a chyflwynwyd ei drama Porth y Byddar yn Eisteddfod Genedlaethol 2007 cyn teithio led-led Cymru. Bu Manon yn Awdur Preswyl gyda Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru rhwng 2008-2010. Mae hi hefyd wedi cyfrannu nifer o ddramau i BBC Radio Cymru. 

Ennillodd ei ffilm Eldra (Teliesin) sawl gwobr yn cynnwys 5 gwobr Bafta Cymru 2001; Ffilm Orau yng Ngwyl Rhyngwladol Moondance, Colorado 2002; a Ffilm Orau Gwyl Ryngwladol Cymru Caerdydd.

Yn 2017 cyhoeddodd ei nofel gyntaf “Porth y Byddar” (Gwasg y Bwthyn). Manon yw cyd-Gadeirydd Pwyllgor Cymru Undeb Awduron Prydain Fawr (WGGB).