Graddiodd Jacob o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2011 ac roedd yn rownd derfynol Gwobr Linbury am Ddylunio Llwyfan yr un flwyddyn.

Ers hynny mae wedi cael ei enwebu am y Dylunydd Set Orau yng ngwobrau Off West End, gwobrau Theatr Cymru ac mae wedi arddangos ei waith yn arddangosfa Make: Believe, Cymdeithas Dylunwyr Theatr Prydain.

Yn 2016 ennillodd Jacob Bwrsariaeth Dylunio Max Rayne y Theatr Genedlaethol ar gyfer Artistiaid sy'n Dod i'r Amlwg, ac mae wedi mynd ymlaen i ddylunio sioeau yn Theatr Dorfman, Theatr Genedlaethol, The Young Vic a The Royal Court.

Ymhlith y prosiectau cyfredol mae Romeo & Juliet, Shakespeare's Globe ac For the Grace of you Go I, Theatr Clwyd.

www.jacobhughesdesign.com