Yn wreiddiol o Sir Benfro, mae Nia yn Rheolwr Llwyfan llawrydd a astudiodd gwrs MA yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mewn Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau. Mae Nia yn gweithio yn bennaf ar sioeau cerdd, opera a dramâu gyda cherddoriaeth. Mae ei phrosiectau diweddaraf yn cynnwys Huw Fyw (Theatr Cymru), Jack & the Beanstalk (Torch Theatre), Unclean Beasts (Music Theatre Wales), Nia Ben Aur (Eisteddfod Pontypridd 2024), Operation Julie (Theatr na nÓg).