Mae Erin yn actor-gerddor o Sir Conwy, Gogledd Cymru. Hyfforddodd yn Mountview Academy of Theatre Arts ac ers hynny mae hi wedi gweithio ar gynyrchiadau i CADW, Magic Light Productions a Chwmni Theatr Y Bohemians. Mae Erin hefyd yn actio'n rheolaidd mewn prosiectau cymunedol Theatr Clwyd, fel 'Bright Sparks', 'Consent' a 'Justice in a Day'. Mae Erin wrth ei bodd yn gweithio gyda Theatr na nÓg ar 'Dal Y Gwynt'!