Hyfforddwyd yn: Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Graddiodd Elis yn 2024 o Gwrs BA Theatr Gerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae Elis o Abercynon a mynychodd Ysgol Gyfyn Gymraeg Rhydywaun, lle cafodd ei angerdd dros berfformio. Yn 2020, mynychodd Elis Goleg Pen-y-bont ar Ogwr i astudio actio ac yna aeth ymlaen i ennill lle yn Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar eu cwrs Theatr Gerdd newydd sbon. Drwy gydol ei hyfforddiant, roedd Elis yn ddigon ffodus i ymddangos mewn llawer o gynyrchiadau yn y Coleg gan gynnwys Sunday in the Park with George, Mad Margot, Carrie a Sweet Charity. Roedd wrth ei fodd eleni i fod yn rhan o’r Sioe Gerdd Gymreig newydd ‘Exotic’ yn BEAM.

Mae Elis yn hynod ddiolchgar o fod yn perfformio gyda Theatr na nÓg am y tro cyntaf ac yn gyffrous iawn i fod yn ymgymryd â rôl ‘Lloyd’ yn y cynhyrchiad hwn.