Cafodd Daniel ei fagu yn Rhosllannerchrugog a'i hyfforddi yn Ysgol Actio East 15.
Mae bellach yn byw yn Llandyrnog, Sir Ddinbych gyda'i wraig Elen a'u dau blentyn. Mae newydd orffen ffilmio Brassic ar gyfer SKY a bu'n ymddangos yn rheolaidd yn yr opera sebon Cymraeg poblogaidd Rownd a Rownd fel y cymeriad Aled.
Cwblhaodd gyfnod o flwyddyn yn y West End yn The Commitments gan Roddy Doyle yn The Palace Theatre, a gyfarwyddwyd gan Jamie Lloyd a chwaraeodd y brif ran sef Deco ar sawl achlysur, chwaraeodd bum rôl i gyd a chwrdd â’i arwyr cerddorol Brian May a Paul McCartney.
Mae ei gredydau theatr yn cynnwys:
Tom: The Tom Jones Musical (UK no: 1 tour) As You Like It (Ludlow and Stafford castle) Some Like It Hotter (Nationwide Tour) Mods and Rox (The New Wolsey Theatre), Deffro’r Gwanwyn/Spring Awakening a New Musical (Theatr Genedlaethol Cymru/Elen Bowman). Gluscabi, Melangell, The Princess and the Hunter, Me, a Giant! ac Eye of The Storm for Theatr na n’Og, The Comedy of Errors (Stafford Festival Shakespeare) a Romeo & Juliet for Bitesize Theatre.
Mae ei gredydau i Clwyd Theatr Cymru yn cynnwys:
Little Shop of Horrors, The Hub, The Taming Of The Shrew, Animal Farm, Yesterday, The Suicide, Tales From Small Nations, A Midsummer Night’s Dream and 15 rôl mewn pantos roc a rôl olynol yn cynnwys Sleeping Beauty, Aladdin, Robin Hood & The Babes in The Wood, Cinderella, Jack and the Beanstalk, Beauty & The Beast a sawl cynhyrchiad o Dick.
Gweithiodd Dan i Disney ar y ffilm Muppets Most Wanted yn stiwdios Pinewood (cafodd gyfarfod a gweithio gyda Kermit, Fozzie ac Animal yn bersonol!).
Mae ei waith teledu yn cynnwys: Brassic, Rownd a Rownd, Will (9th floor Productions for the USA market) cyfarwyddwyd gan Shekar Kapoor ac ysgrifennwyd gan awdur Moulin Rouge Craig Pearce ASRA (S4C) Dau Dŷ a Ni, Mici yn Tipyn o Stad, Dafydd Meirion yn A470 (ITV,) and mewn nifer o ffilmiau byr.
Mae Dan yn gitarydd/canwr-gyfansoddwr/aml-offerynnwr proffesiynol wedi'i gofrestru gyda label recordio ac mae wedi cael llwyddiant gyda'i albwm stiwdio unigol cyntaf Tro Ar Fyd. Mae'n ymddangos yn rheolaidd ar deledu a radio yng Nghymru yn perfformio ei ganeuon ei hun. Mae ei ymddangosiadau yn cynnwys: Wedi 3, Ar Gamera, Yr Ystafell Fyw, Trac, Gofod, Bro, Bryn Terfel’s Gwyl Y Faenol, Pws, Wedi 7, Noson Lawen, Nodyn, Uned 5, Bandit, Heno a llawer rhagor.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd, perfformiodd a chynhyrchodd Daniel y gerddoriaeth ar gyfer y rhaglen deledu Gymraeg ASRA ... mae hefyd i'w weld yn y gyfres hon yn chwarae rôl EMS y cyfrifiadur! Ymhlith y gwaith cyfansoddi arall mae Dau Gi bach a'r sioe boblogaidd Y Doniolis ac ail-weithio anthem AFC Wrecsam ‘I mewn i’r Gol!’.
Mae ei gredydau cyfarwyddo yn cynnwys: Miss Wales (yn cael ei ddatblygu) Without You - The Badfinger Musical (yn cael ei ddatblygu) The White Feather, Arandora Star, The Butterfly Hunter, Far From The Madding Crowd, Toxic Whispers a Cloudbust- ing, It’ll All Be Over By Christmas a dau banto llawn sêr Shane Williams ar gyfer S4C.
Mae hefyd yn brif ganwr y band Cymraeg Daniel Lloyd a Mr Pinc sydd wedi rhyddhau sawl record Cymraeg ac wedi teithio’n helaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf.