Mae cyd-weithio yn rhan annatod o Gwmni Theatr na nÓg. Rydym ni wedi profi dros y blynyddoedd mai gorau chware yw cyd-chwarae, naill ai gyda chanolfannau neu sefydliadau cenedlaethol, grŵp o blant mewn ysgol neu grwp o oedolion mewn neuadd gymuned, dyma ble mae'r cynnwrf i greu yn cychwyn. Yng nghlwm ymhob perfformiad mae profiadau dysgu unigryw gyda gweithgareddau creadigol â dyfeisiau digidol.
Cymerwch ran
P'un a ydych chi'n actor ifanc sy'n chwilio am arweiniad neu gyngor, neu'n gynhyrchydd sy'n awyddus i gydweithio, mae amryw o ffyrdd y gallwn ni gydweithio gyda’n gilydd. Porwch drwy ein prosiectau a'n cyfleoedd diweddar isod, neu cysylltwch â ni'n uniongyrchol.
Cymerwch sedd a rown ni’r tegyll ymlaen. Bydd wastod croeso cynnes i’w gael yn Theatr na nÓg.