Llongyfarchiadau i ysgol fuddugol Ysgol Gynradd Blaenymaes eleni, Ysgol Gynradd Penyrheol a ddaeth yn 2il, ac Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas a ddaeth yn 3ydd.
Pob blwyddyn, mae yna ddysgu hudolus yn digwydd mewn ystafelloedd dosbarth ar draws De Cymru. Mae athrawon a disgyblion uchelgeisiol yn creu prosiectau ysbrydoledig yn seiliedig ar themâu cynyrchiadau Theatr na nÓg.
Er cof am gyn Athrawes Ymgynghorol Celf a Drama'r Sir a chyn-gadeirydd bwrdd Theatr na nÓg, Carolyn Davies, hoffwn ni gydnabod yr holl ymdrechion creadigol yma a’u dathlu gyda chystadleuaeth a seremoni wobrwyo. Gwahoddir yr holl athrawon a’r disgyblion sy’n rhan o’r prosiectau ar y rhestr fer i fynychu gyda’u teuluoedd ac mae cyfle i ennill gwobrau gwych wedi cyfrannu gan ein cefnogwyr caredig.
Llongyfarchiadau i'r ysgolion fuddugol o'r gwobr fawreddog:
Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2019 - Ysgol Gynradd Creunant
Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2020 - Ysgol Gynradd Cwmafan
Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2023 - Ysgol Gynradd Blaenymaes
Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2024 - Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas
Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2025 - Ysgol Gynradd Blaenymaes
Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2026 yw 10yb ar dydd Gwener y 19eg o Ragfyr.
I gofrestru, defnyddiwch y ffurflen islaw i gyflwyno disgrifiad a fideo byr am eich prosiect dosbarth a/neu’r gweithgareddau a ysbrydolwyd gan eich ymweliad. Ni ddylai'r disgrifiad fod yn fwy na 500 o eiriau, ac ni ddylai'r fideo fod yn hwy na 5 munud.
Sylwch, er y gallwch gyflwyno cais o ddosbarthiadau lluosog os dymunwch, mae mynychwyr y digwyddiad wedi'u cyfyngu i 60 fesul ysgol.
Bydd y Beirniaid yn sgorio prosiectau ar sail y meini prawf canlynol:
- Mae’r prosiect yn dangos agwedd greadigol a dealltwriaeth o themâu The Fight, gydag archwiliadau a thrafodaethau trylwyr o amgylch y thema.
- Mae'r prosiect yn dangos ffyrdd creadigol ac arloesol o weithio. Mae prosiectau wedi cysylltu’n greadigol ar draws pob un o’r Chwe Maes Dysgu a Phrofiad gan ddefnyddio’r sioe fel canolbwynt.
- Mae’r prosiect yn dangos y plant yn arwain eu dysgu eu hunain, gan greu gwaith o ansawdd uchel. Mae'r plant wedi cael eu harwain yn dda i gymryd perchnogaeth o'u dysgu ac maent wedi ymgysylltu'n glir drwy gydol yr amser.
- Mae’r prosiect wedi’i gyflwyno mewn ffordd ddiddorol a chreadigol, gyda mewnbwn clir gan y plant.
Bydd y tair ysgol sydd ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo arbennig.
Bydd y prosiect â’r sgôr uchaf yn ennill:
- Tlws gwobrwyo i'w arddangos yn eich ysgol
- Gwobr ariannol a roddir gan ein noddwyr Carr, Jenkins a Hood Accountants
- A mwy o wobrau i'w cyhoeddi.
Bydd yr ysgolion yn yr ail a'r trydydd safle hefyd yn derbyn gwobrau ariannol, gyda mwy i'w cyhoeddi.
Gweler islaw fideo buddugol eleni gan Ysgol Gynradd Blaenymaes.
Gweler islaw fideo buddugol 2024 gan Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas.