Rydym yn edrych am Reolwr Llwyfan i weithio gyda ni ar sioe 'Y Naid' yn yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd (sioe 2-rhan i ysgolion am ddiogelwch dŵr). Chi fydd yr unig SM yn gweithredu qLab. 2 wythnos o ymarferion yng Nghastell-Nedd a 2 wythnos o berfformiadau. Dydd Llun 28ain o Ebrill tan Ddydd Gwener 23ain o Fai. Perfformiwyd y sioe yn Saesneg ac yn y Gymraeg.
Mae hefyd angen Rheolwr Llwyfan i weithio ar sioe plant Eisteddfod yr Urdd, Halen yn y Gwaed. Bydd ychydig o ymarferion ar ddyddiau Sul ac wedyn 2 wythnos llawn amser o Ddydd Llun 19eg o Fai tan Ddydd Gwener 30ain o Fai. Yn gweithio gyda thîm arbennig byddwch yn ciwio'r unig berfformiad ar Ddydd Mercher y 28ain.
Cysylltwch â alison@theatr-nanog.co.uk am fwy o wybodaeth os oes gennych ddiddordeb ac os ydych ar gael ar gyfer naill un o'r prosiectau hyn. Os hoffech ddysgu mwy am weithio gyda Theatr na nÓg yn y dyfodol, cysylltwch a danfonwch eich CV os gwelwch yn dda.