Y Consortiwm
Sefydlwyd Y Consortiwm Cymraeg gan Theatr na nÓg a thri leoliad i gyflwyno theatr iaith Gymraeg sydd yn hygyrch ac o safon uchel, ac i gynhyrchu rhaglen o ddigwyddiadau ymgysylltu i gymunedau i ddatblygu eu sgiliau iaith a chysylltu â'r celfyddyfau a'r diwylliant sydd ar eu stepen ddrws.
Fe ymunodd Theatr Soar yn Merthyr Tydfil, Y Neuadd Les yn Ystradgynlais ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen gyda ni i ailgynnau bywiogrwydd a gwerth eu lleoliadau i'w cymunedau. Caiff Y Consortiwm ei gefnogi gan Gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi targed Llywodraeth Cymru o miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a'r holl elfennau anfodol sy'n cyfrannu at adfywiad ein hiaith a'n diwylliant.
Rydym yn falch bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi mentrau a phartneriaiethau fel hyn. Mae'r ffaith eu bod yn adnabod pwysigrwydd diogelu celfyddydau iaith Gymraeg yn ein cymunedau yn argoeli'n dda ar gyfer ein dyfodol.
Fe gynhyrchodd y Consortiwm cyfieithiad Cymraeg o 'Shirley Valentine' yn 2022, ac mae nawr yn dychwelyd gyda fersiwn Cymraeg o 'The Woman in Black', Y Fenyw Mewn Du, ar daith yn Hydref 2023.