Bydd Theatr na nÓg yn cynhyrchu sioe gerdd am fywyd ifanc Tom Jones cyn iddo ddod yn seren ryngwladol, ac yntau wedi ei fagu yng Nghymoedd De Cymru yn teithio o amgylch tafarndai a chlybiau yn dysgu ei grefft fel un o ddiddanwyr mwyaf enwog y byd.
Wedi ei hysgrifennu gan Mike James a gyda cherddoriaeth Roc a Rôl o’r 1950au, bydd y sioe ysbrydoledig hon am hunan ymddiriedaeth anghredadwy a phenderfynol, yn gwefreiddio cynulleidfaoedd drwy Gymru a thu hwnt.

Teithiodd y cynhyrchiad yma i:
The Muni Arts Centre, Pontypridd
Gardyne Theatre, Dundee
Neuadd Gwyn, Castell-nedd
New Wolsey Theatre, Ipswich
The Lyric Theatre, Caerfyrddin
Theatre Royal Windsor
Pavilion Theatre, Rhyl





I weld mwy o luniau o'r cynhyrchiad - cliciwch yma