Gan Geinor Styles ac Amy Wadge
Mewn cysylltiad â Chanolfan Celf Taliesin
Mewn partneriaeth â Technocamps
“when clouds fill up the sky and the rain falls on you…I won’t mind, at least I feel alive’
Drama gerddorol newydd yw Eye of the Storm a fydd yn eich cyffwrdd i’r byw. Drwy gyfrwng caneuon gwreiddiol gan Amy Wadge, enillydd Gwobr Grammy (Thinking Out Loud gydag Ed Sheeran), cawn ddilyn hanes Emmie. A ddylai hi ddilyn ei breuddwyd o fod yn wyddonydd neu a ddylai hi aros adref i ofalu am ei mam? Mae hi mewn penbleth llwyr.
Mae ganddi gyfle unigryw i wireddu ei breuddwyd o gael mynd i astudio i America, a rhaid iddi frwydro i sicrhau ei lle ar y cwrs gwyddoniaeth drwy gymryd rhan mewn cystadleuaeth STEM, gyda’i dyfais anghyffredin am egni adnewyddadwy.
Cyflwynir y stori ysbydoledig yma gan 8 o actorion sydd hefyd yn gerddorion talentog, a nhw fydd yn chwarae’r gerddoriaeth yn fyw ar y llwyfan i bob sioe.
Digwyddiad theatrig sy’n taflu goleuni ar berson ifanc dewr, penderfynol ond sydd eto’n llawn tosturi, ac sy’n sicr o swyno ac ysbrydoli pobl ifanc.
Mae’r cynhyrchiad hwn yn gysylltiedig â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, gyda rhaglen addysg wedi ei chreu gan Technocamps.
Yn addas i Gyfnod Allweddol 2 a 3.
Bydd y perfformiadau hwn yn uniaith Saesneg
Dyddiadau
Theatr Dylan Thomas, Abertawe
Dyddiad: 20 Medi - 3 Tachwedd 2017
Amser: 10am and 1pm Dydd Llun i ddydd Gwener
Cost: £7.50 + TAW y disgybl / oedolyn (1 tocyn oedolyn am ddim i 10 disgybl)
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 26 Mai 2017
Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe
Dyddiad: 7 Tachwedd - 10 Tachwedd 2017
Amser: Dydd Mawrth 7.30pm, Dydd Mercher 11am & 4.30pm,
Dydd Iau 1pm & 7.30pm, Dydd Gwener 10am & 7.30pm
Cost: £12 pris llawn, £10 consesiwn, £9 ysgolion
Albwm Eye of the Storm
Recordiwyd trac sain Eye of the Storm gwreiddiol Amy Wadge ar albwm CD argraffiad cyfyngedig sydd ar gael gan Theatr na nÓg, neu fel arall, gallwch lawrlwytho'r traciau ar iTunes ac Amazon.
Gallwch chi lawrlwytho'r Albwm trwy glicio ar y dolenni canlynol.
Lawrlwytho o iTunes
Fel arall, os hoffech chi brynu CD o'r albwm, yna cysylltwch â ni trwy e-bost.
drama@theatr-nanog.co.uk
_____________________________________________________________
Yr enillydd Grammy Amy Wadge yn un o gyfansoddwyr caneuon cyfoes mwyaf toreithiog y DU. Mae llwyddiant mwyaf nodedig Amy hyd yn hyn o ganlyniad i'w phartneriaeth ysgrifennu hirsefydlog gydag Ed Sheeran. Cân Amy ac Ed, Thinking Out Loud, oedd y drydedd sengl oddi ar ail albwm Sheeran, a enwebwyd teirgwaith am Grammy, sef X (Multiply). Aeth i Rhif 1 yn Siart y DU ym mis Tachwedd 2014 ar ôl treulio 19 wythnos yn y 40 uchaf, gan dorri'r record ar gyfer y daith hiraf erioed i'r brig. Yn agosach at adref, mae Amy wedi ennill yr Artist Benywaidd Gorau yng Ngwobrau Cerddoriaeth Cymru ddwywaith, y tro cyntaf wrth drechu Charlotte Church a'r ail ar y blaen i Cerys Matthews. Yn fwy diweddar mae hi wedi hudo cynulleidfaoedd teledu gyda'i thrac sain swynol ar gyfer drama'r BBC, Un Bore Mercher.