Gan Willy Russell

Dychweliad comedi aruthrol o waith awdur Blood Brothers ac Educating Rita - ond tro yma, wedi ei pherfformio yn y Gymraeg. 
Mae Cool Cymru wedi glanio ym Merthyr, ac i bobl ifanc mae bywyd o’r diwedd yn llawn cyffro, Catatonia, Y Stereophonics - ac alcopops. 
Nid felly i Shirley druan. I Shirley, mae bywyd a chyffro yn perthyn i’r gorffennol - ac mae’r  blynyddoedd treuliodd yn troedio yn ei rhigol, yn wraig tŷ difflach a di-nod, wedi rhoi tolc yn ei hyder a’i breuddwydion. Ond mae Shirley ar fin camu i fyd fydd yn trawsnewid ei bywyd yn gyfan gwbl. Ymunwch â hi wrth iddi ffarwelio â fformeica’r gegin a’i drwco am bythefnos o wyliau yng Ngroeg : pythefnos fydd yn newid Shirley am byth. 
Shelley Rees (BBC Radio Cymru, Pobol Y Cwm) fydd yn serennu fel Shirley Valentine yn y gomedi ddisglair yma sydd yn siŵr o godi calon a chynnal ysbryd ar ôl caledi’r cyfnod clo. Yn addas i bawb o ddysgwyr i siaradwyr rhugl. Dewch gyda ffrind, dewch gyda chriw, i fwynhau anturiaethau Shirley a hedfan gyda hi ar ei thaith annisgwyl  i Baradwys - a bywyd newydd. 

Sefydlwyd Y Consortiwm Cymraeg, cydweithrediad newydd rhwng y cwmni theatr arobryn Theatr na nÓg, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Theatr Soar a Neuadd Les Ystradgynlais, gyda’r nod o gyd-gynnal theatr hygyrch o’r safon uchaf yn yr iaith Gymraeg. Yn ogystal, mae’r Consortiwm yn bwriadu cyflwyno rhaglen o gyfranogiadau fydd yn galluogi cymunedau i wella eu sgiliau iaith a hefyd i ymwneud â chelfyddydau a diwylliant ar eu stepen drws. Mae aelodau’r consortiwm wedi dod at ei gilydd er mwyn ailgynnau egni a gwerth y canolfannau perfformio yma a’u cymunedau. 
Roedd cynlluniau’r Consortiwm eisoes ar y gweill cyn dyfodiad pandemig Covid-19, ond wrth i’r  canolfannau diwylliannol orfod cau eu drysau, sylweddolodd aelodau’r Consortiwm bod yr angen am y fath ganolfannau hyd yn oed yn fwy difrifol - i sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg yn y cymoedd ac i gynnal eu cymunedau bywiog tu hwnt i Bandemig Covid. 
Am fwy o fanylion ynghylch ymuno â’r gweithgareddau fydd yn cyd-fynd a’r cynyrchiadau, e-bostiwch Carys Wehden carys@theatr-nanog.co.uk
 

Cast
Shelley Rees
Shirley Valentine
Cynhyrchiad
Willy Russell
Awdur
Geinor Styles
Cyfarwyddwr
Manon Eames
Cyfieithiad Cymraeg
Tonya Smith
Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Charly Brookman
Rheolydd Llwyfan
Cara Hood
Cynllunydd Goleuo
Jacob Hughes
Cynllunydd
Molly Jefferies
Rheolwr Llwyfan Technegol
Alison Palmer
Rheolwr Llwyfan
Archebu
Maw, 29th Maw
7:30PM
Memo Arts Centre, Barry
cymraeg
Mer, 30th Maw
7:30PM
Grand Pavilion, Porthcawl
cymraeg
Iau, 31st Maw
2:00PM
Grand Pavilion, Porthcawl
cymraeg
Gwen, 1st Ebr
7:30PM
Grand Pavilion, Porthcawl
cymraeg
Adnoddau i Ddysgwyr
Cefnogwyr