Ar y 17eg o Hydref 2024, nododd Theatr na nÓg 40 mlynedd ers ei sefydliad gan ddathlu pedwar degawd o greu theatr Gymreig wreiddiol o safon uchel.
Mae effaith ddofn Theatr na nÓg ar y gymuned yn dyst i’w harwyddocâd a’r cwlwm cryf y mae wedi’i ffurfio â’i chynulleidfa. O’i chartref diymhongar yng Nghastell-nedd, De Cymru, mae Theatr na nÓg wedi tyfu i fod yn un o gwmnïau theatr mwyaf arloesol a deinamig Cymru, gan gynhyrchu perfformiadau cyfareddol ac amrywiol yn gyson. Mae 2024 yn garreg filltir i’r cwmni wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 40 oed, mae gwytnwch y cwmni a’i ymrwymiad i’w genhadaeth, er gwaethaf yr heriau, yn dyst i’w greadigrwydd a’i berthnasedd parhaus. Yn driw i'w henw, sy'n golygu "gwlad theatr ieuenctid tragwyddol," mae Theatr na nÓg yn parhau i adrodd straeon ffres a bywiog i gynulleidfaoedd.
Mae ei waith trawiadol yn cynnwys A Story of Tom Jones, sioe gerdd yn seiliedig ar fywyd cynnar a gyrfa Tom Jones, a werthodd bob tocyn i Ganolfan Mileniwm Cymru yn 2016, gyda lle sefyll yn unig – y cwmni theatr Cymreig cyntaf i gyflawni hynny. Dim ond yn ddiweddar y mae’r cwmni wedi dychwelyd o daith theatr lwyddiannus ledled y wlad o Operation Julie, sioe gerdd prog-roc am yr heist cyffuriau mwyaf a welodd y byd erioed, a ddigwyddodd yng Ngorllewin Cymru yn y 1970au. Dewisodd The Stage rediad cyntaf Operation Julie fel un o 50 sioe theatr orau’r flwyddyn yn 2022. Mae’r cwmni hefyd wedi cael llwyddiant gydag addasiadau Cymraeg o glasuron fel Shirley Valentine a The Woman in Black.
Mae Theatr na nÓg hefyd yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd ifanc gyda chynyrchiadau fel Eye of the Storm, gan amlygu gofalwyr ifanc a merched mewn STEM; Just Jump, yn hyrwyddo diogelwch dŵr; a’i sioe pen-blwydd arbennig, The Fight, sy’n adrodd stori wir bwerus Cuthbert Taylor, bocsiwr treftadaeth gymysg o Ferthyr Tudful, cafodd ei wahardd rhag frwydro am deitl Prydeinig oherwydd lliw ei groen.
Wedi'i sefydlu'n wreiddiol fel TIC – Theatre in the Community, fe wnaeth y cwmni ailfrandio'n gyflym i Theatr Gorllewin Morgannwg, enw yr oedd yn ei gario am nifer o flynyddoedd cyn dod yn Theatr na nÓg ym 1999. Drwy gydol ei hanes, mae'r cwmni wedi aros yn ddiysgog yn ei genhadaeth: i greu theatrr o safon uchel sy'n atseinio gyda chymunedau a chynulleidfaoedd lleol ac ymhell. Mae’r ymrwymiad hwn i adrodd straeon mewn ffordd hygyrch a deniadol wedi bod wrth wraidd ei lwyddiant ers pedwar degawd.
Wrth gofio ei hargraffiadau cyntaf wrth ymuno â’r cwmni yn 1991 fel rheolwr llwyfan, eglura’r Cyfarwyddwr Artistig Geinor Styles, “Roeddwn i wrth fy modd â phopeth am y cwmni – yr ethos o greu gwaith diymhongar, gwneud cymunedau yn ganolbwynt i’r gwaith, adrodd straeon y gall pobl leol uniaethu ag ef. Roedden i’n ei garu.” Mae Styles wedi mynd ymlaen i arwain cwmni sy’n cydbwyso creu gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd oedran ysgol â chynyrchiadau teithiol mwy o faint ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt. “Mae’r gred wei bod erioed y gallai pobl dyfu i fyny gyda’r cwmni, lle maen nhw’n ei weld gyda’u hysgol, ac yna’n ddiweddarach yn gweld gwaith y cwmni yn eu theatr leol.”
Mae Daniel Evans, Cyd-Gyfarwyddwr Artistig y Royal Shakespeare Company a chefnogwr hir-dymor o Theatr na nÓg, yn cofio cynyrchiadau Theatr Gorllewin Morgannwg yn annwyl. Mae'n myfyrio ar effaith ddofn y theatr ar siapio meddyliau ifanc: "Pan oeddwn i'n blentyn, roedd gweld sioeau Theatr Gorllewin Morgannwg yn Neuadd y Dderwen yn Nhreorci yn brofiad ysbrydoledig. Roedd y rhain yn sioeau cerdd gwreiddiol, ac roedd cael eu mwynhau yn ein cymuned yn y Rhondda yn brofiad llawn balchder a braint. Mae Theatr na nÓg yn esblygiad cyffrous i’r cwmni gwreiddiol, lle gall cynulleidfaoedd o bob oed fwynhau straeon perthnasol mewn cynyrchiadau dyfeisgar yn eu cymunedau. Penblwydd hapus i’r cwmni!”
Mae llwyddiant y cwmni wrth ymgysylltu â chynulleidfaoedd ifanc yn brawf o'i effaith. Bydd dros 5000 o blant ysgol yn ymweld â The Fight ac yn dysgu am Cuthbert Taylor. Dywedodd Kath Lecrass, pennaeth Ysgol Gynradd Blaenymaes, am ei hymweliadau â chynyrchiadau Theatr na nÓg: “Mae effaith pob sioe Theatr na nÓg yn anfesuradwy o ran ymwneud â phynciau a dysgu dilys. Mae’r amrywiaeth eang o sioeau o ansawdd uchel yn dathlu ein diwylliant a’n treftadaeth Gymreig gyfoethog gydag adnoddau anhygoel i gefnogi addysgu a dysgu nôl yn y dosbarth. Ni fyddai llawer o’n plant byth yn ymweld â’r theatr heb y cyfleoedd hyn, ac mae’r plant bob amser yn amlygu ymweliadau Theatr na nÓg fel un o’r profiadau mwyaf cofiadwy ar eu taith ddysgu ym Mlaenymaes."
Mae'r cwmni wedi ymrwymo i sicrhau y dylai pob plentyn brofi theatr fyw, beth bynnag yw eu cefndir. Ategir hyn gan y data a gasglwyd gan y cwmni; yn 2023 roedd 53% o’r ysgolion a fynychodd sioe Theatr na nÓg yn dod o’r 50% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Wrth fyfyrio ar bedwar degawd o gynhyrchu Theatr o safon uchel, dywedodd Geinor Styles am etifeddiaeth y cwmni a’r heriau sydd o’n blaenau: “Heb os, mae Theatr na nÓg wedi gwrthsefyll prawf amser, gan gyflwyno profiadau theatr eithriadol i gynulleidfaoedd o bob oed. Rwy’n hynod ddiolchgar i yr actorion dawnus a’r timau creadigol sydd wedi dod â’n cynyrchiadau yn fyw. Mae ein cefnogaeth barhaus gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn amhrisiadwy. Ac eto, rwy’n cael fy hun yn gynyddol bryderus am ddyfodol y celfyddydau yng Nghymru. Byddai mwy o doriadau I’r cyllid yn ddinistriol, yn enwedig i blant o gefndiroedd dosbarth gweithiol, na fyddent fel arall yn cael y cyfle i archwilio’r celfyddydau a mwynhau ei fanteision.”
Mae Theatr na nÓg wedi ymrwymo i fynd i’r afael â phynciau sy’n bwysig i genedlaethau’r dyfodol, felly bydd y ffocws ar gyfer y blynyddoedd nesaf ar yr argyfwng hinsawdd. Bydd y cwmni’n adfywio’r sioe clodwiw Eye of the Storm ac yn cyflwyno cynyrchiadau newydd, We Need Bees a Bug Hotel gan Katherine Chandler, i ysbrydoli gweithredu ac ymwybyddiaeth ar y pwnc brys hwn.