Gan Geinor Styles 

Mewn partneriaeth ag Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y 
Glannau a Technocamps.

Ym mlwyddyn ein Brenhines, 1898. Fe'ch gelwir ar gyfer Gwasanaeth Rheithgor. Mae bachgen 14 oed wedi ei gyhuddo o botsian, lladrad a llofruddiaeth ar Stad Margam! Os ceir ef yn euog bydd yn cael ei ddedfrydu i ‘hongian o’i wddf nes ei fod wedi marw’. Mae'n gyfrifoldeb arnoch chi'r rheithgor i brofi'r bachgen ifanc hwn yn euog neu yn ddieuog. Byddwch yn clywed tystiolaeth, yn dyst i ddeddfiadau ac yn eistedd wrth galon y trafodion. Bydd disgwyl i chi ddefnyddio'ch rhesymu a phenderfynu pwy sy'n dweud celwydd a phwy, os oes unrhyw un, sy'n dweud y gwir.

Mae bywyd bachgen ifanc yn eich dwylo chi. Fel y rheithgor yn y ddrama hon, a fyddwch chi'n ei gael yn euog neu'n ddieuog?

Mae’r profiad Fictoraidd rhyngweithiol hwn yn gyfle unigryw i blant brofi theatr byw ar ffurf arloesol. Mae Theatr na nÓg yn un o gwmnïau theatr fwyaf cyffrous Cymru, a chyda Prawf Elgan Jones, mae’n addo gwthio’r gynulleidfa i wrando, ystyried a chydweithio cyn cyflwyno'r dyfarniad angenrheidiol.

Mae bywyd bachgen ifanc yn hongian yn y fantol; eu barn hwy fydd y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.
 

Perffaith ar gyfer Blwyddyn 5 i fyny

Mae ein pecynnau i ysgolion wedi’u cynllunio’n benodol i gwmpasu pob maes o’r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd, yn enwedig y Dyniaethau,  Llythrennedd a Iechyd a Lles.

Y themâu craidd yw 

  • Ymchwilio a chymharu bywydau'r plant cyfoethog a’r plant tlawd yng Nghrymu yn ystod oes Fictoria.
  • Cymryd rhan mewn trafodaeth, dadl a phenderfyniad, wrth ystyried y wybodaeth sydd wedi’u ddarparu ac i gael dealltwriaeth o’r canlyniadau yn sgil y penderfyniadau.
  • Ystyried safbwyntiau gwahanol o ddadl wrth feddwl am ffactorau moesol, cymdeithasol ac economaidd.
Pecynnau

YSGOLION GYNRADD

Ar gael o Ddydd Mawrth i Ddydd Gwener

Diwrnod cyfan o weithgareddau.

  • Perfformiad o’r ddrama, ‘Prawf Elgan Jones’ yn Theatr Dylan Thomas
  • Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r Cast
  • Gweithdy am ddim yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau neu Amgueddfa Abertawe
  • Adnoddau ar-lein am ddim yn gysylltiedig â themâu’r sioe

Bydd pob ysgol gynradd yn cael ei chynnwys mewn cystadleuaeth i ennill gweithdy côdio gan Technocamps yn rhad ac am ddim.

Bydd y diwrnod yn dechrau’n brydlon am 9.45am ac yn gorffen am 2.30pm (mae gennym ddiwrnod llawn dop ar eich cyfer felly peidiwch â bod yn hwyr!).

YSGOLION CYFUN

Ar gael ar Ddyddiau Llun neu diwrnodau eraill ar gais

Cyfle delfrydol i’r rhai sy’n astudio

Hanes TGAU - Bywyd yn ystod Yr Oes Fictoraidd

TGAU - Dehongli Drama

Dewch i weld y sioe a’r sesiwn Cwestiwn ac Ateb am 10am neu 1pm neu dewch am ddiwrnod cyfan:

  • Perfformiad o’r ddrama, ‘Prawf Elgan Jones’ yn Theatr Dylan Thomas (1 awr)
  • Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r Cast (20 munud)
  • Amser i edrych o amgylch Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (dewisol)
  • Adnoddau ar-lein am ddim yn gysylltiedig â themâu’r sioe.
Margam House

Faint mae’n ei gostio?

Rydym yn derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a gan nifer o Ymddiriedolaethau a Sefydliadau tuag at gostau’r prosiect.

Byddwn yn defnyddio’r cyllid hwn er mwyn gostwng
y pris i chi, gan ei ostwng i
£7.50+TAW ar gyfer pob disgybl / oedolyn

yn ogystal ag un tocyn oedolyn am ddim gyda phob 10 disgybl.

Fel amod i’r cyllid hwn, mae angen i ni gasglu adborth gan bob cyfranogwr.

Er mwyn derbyn y pris gostyngol hwn, rydym yn gofyn am dri pheth:

1. Eich bod yn arwyddo’ch contract archebu a fydd
yn cael ei e-bostio atoch a’i ddychwelyd oddi fewn 7 diwrnod o’i dderbyn.
2. Eich bod yn cwblhau arolwg syml, ar-lein oddi fewn i 10 diwrnod o’ch ymweliad.
3. Eich bod yn talu’ch anfoneb oddi fewn 60 diwrnod wedi’ch ymweliad.

Byddwn yn anfon negeseuon atoch i’ch atgoffa, felly does ddim angen i chi boeni am anghofio gwneud hyn.

Cast
Llinos Daniel
Isabella, Elizabeth a Caleb Sneed
Morgan Llewelyn Jones
Elgan Jones & Mrs Protheroe
Richard Nichols
Barnwr & Higgins
Cynhyrchiad
Geinor Styles
Cyfarwyddydd ac Awdur
Alison Palmer
Rheolwr Cynhyrchu
Carwyn Jones
Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Kitty Callister
Cynllunydd
Barnaby Southgate
Cyfansoddwr
Cara Hood
Cynllunydd Goleuo
Ian Barnard
Cynllunydd Sain
Cait Gerry
Rheolwr Llwyfan
Carys-Haf Williams
Rheolwr Llwyfan
Emma Stevens Johnson
Hyfforddwr Llais
Juliette Georges
Cynorthwyydd Gwisgoedd
Cefnogwyr