Gan Mali Tudno Jones & Geinor Styles
Pan ymunodd yr Eidal a’r rhyfel yn ystod haf 1940, cafodd Eidalwyr a oedd yn byw yng Nghymru a gweddill y DU eu brandio fel y gelyn.
Ar y 1af o Orffennaf 1940, cafodd yr Arandora Star ei gamgymryd am long filwrol a’i dorpido gan ‘Uboat’ o’r Almaen oddi ar arfordir Iwerddon, a’i suddo gyda 446 o fywydau dynion o’r Eidal wedi eu colli.
Mae ein drama, Yr Arandora Star, yn adrodd stori emosiynol Lina wrth iddi frwydro i ymdopi â cholli ei thad, Guido, a sut mae hi a’i mam, Carmella yn goroesi mewn cyfnod o ryfel a rhagfarn.
Mae’r Arandora Star yn stori wir a bydd yn archwilio bywyd mewnfudwyr sy’n byw ac yn gweithio yn y DU yn ystod cyfnod o ryfel ac yn dilyn cwest Lina am ei thad a’r gwir.
Mae’r ddrama hon yn amlygu materion mewnfudo ac integreiddio.
Perffaith ar gyfer Blwyddyn 5 i fyny
Mae ein pecynnau i ysgolion wedi’u cynllunio’n benodol i gwmpasu pob maes o’r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd
Y themâu craidd yw
• Dinasyddiaeth fyd-eang
• Rhyfel yn y 20fed ganrif a’r Ail Ryfel Byd
• Elfennau o drawsieithu Cymraeg, Saesneg ac Eidaleg
YSGOLION GYNRADD
Ar gael o Ddydd Mawrth i Ddydd Gwener
Diwrnod cyfan o weithgareddau.
- Perfformiad o’r ddrama, ‘Yr Arandora Star’ yn Theatr Dylan Thomas
- Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r Cast
- Ymweliad i weld arddangosfa’r Ail Ryfel Byd yn Amgueddfa Abertawe
- Gweithdy am ddim yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- Adnoddau ar-lein am ddim yn gysylltiedig â themâu’r sioe
Bydd pob ysgol gynradd yn cael ei chynnwys mewn cystadleuaeth i ennill gweithdy côdio gan Technocamps yn rhad ac am ddim.
Bydd y diwrnod yn dechrau’n brydlon am 9.45am ac yn gorffen am 2.30pm (mae gennym ddiwrnod llawn dop ar eich cyfer felly peidiwch â bod yn hwyr!).
YSGOLION CYFUN
Ar gael ar Ddyddiau Llun neu diwrnodau eraill ar gais
Cyfle delfrydol i’r rhai sy’n astudio
Hanes TGAU - Bywyd yn ystod Amser Rhyfel Drama TGAU - Dehongli Drama
Dewch i weld y sioe a’r sesiwn Cwestiwn ac Ateb am 10am neu 1pm neu dewch am ddiwrnod cyfan:
- Perfformiad o’r ddrama, ‘Yr Arandora Star’ yn Theatr Dylan Thomas (1 awr)
- Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r Cast (20 munud)
- Amser i edrych o amgylch Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (dewisol)
- Adnoddau ar-lein am ddim yn gysylltiedig â themâu’r sioe.
Archebwch le ar gyfer eich ysgol
Eisiau rhagolwg?
Fel bod eich disgyblion yn cael y mwyaf o’u diwrnod, rydym yn argymell fod o leiaf un athro o’ch ysgol yn bresennol.
Mae hwn yn ddigwyddiad sy’n rhad ac am ddim ac mae argaeledd cyfyngedig felly sicrhewch eich bod yn archebu eich tocyn o flaen llaw.