Mae cynhyrchiad Theatr na nÓg yn ysbrydoli plant ysgol i gystadlu am wobr dysgu creadigol er cof am ymgynghorydd ysgol lleol.
"Mae gwneuthurwyr theatr y dyfodol yma, ac mae'n rhaid i ni eu meithrin a'u dathlu."
Ar yr 28ain o Chwefror, yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, cyflwynwyd Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2024 i Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas. Mae’r wobr yn cydnabod y prosiect neu’r gweithgareddau creadigol a ysgogwyd gan daith i sioe Theatr na nÓg. Mynychwyd y seremoni wobrwyo, a noddwyd gan y cwmni cyfrifeg Carr Jenkins & Hood, gan y tair ysgol ar y rhestr fer: Ysgol Gynradd Blaenymaes, Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant ac Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas.
Sefydlodd Theatr na nÓg Wobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies yn 2018 ac eleni yw’r pedwerydd tro i’r gystadleuaeth gael ei chynnal. Mae’r wobr yn coffau cynghorydd celfyddydau, athrawes, a chyn-gadeirydd bwrdd Theatr na nÓg, Carolyn Davies. Hyrwyddodd Carolyn bwysigrwydd y celfyddydau ac iddynt fod yn ganolog i addysg pobl ifanc Gorllewin Morgannwg. Mae ei hawydd i ysgolion feithrin cysylltiadau cryf â’r cwmni theatr yn gwneud y wobr hon yn deyrnged deilwng i anrhydeddu ei hymroddiad gydol oes i bobl ifanc a’r celfyddydau yn Ne Orllewin Cymru.
Roedd gwobr eleni’n canolbwyntio ar gynhyrchiad y Cwmni Heliwr Pili Pala, sy’n adrodd stori wir y naturiaethwr a aned yng Nghymru, Alfred Russel Wallace, sy’n cael y clod ar y cyd am ddamcaniaeth esblygiad gyda Charles Darwin. Treuliodd ysgolion o bob rhan o dde Cymru'r diwrnod gyda'r Cwmni yn gweld y sioe ac yn cymryd rhan mewn gweithdai yn Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Yn ogystal â gweithgareddau'r dydd, bu'r plant hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdai cyfrifiadureg a ddarparwyd yn eu dosbarth gan Technocamps.
Cafodd pob ysgol a ddaeth i weld y sioe gyfle i gymryd rhan drwy gyflwyno fideo yn arddangos eu gweithgareddau creadigol, gan wreiddio’r sioe yn eu dysgu.
Dywedodd Mr Carl Farrant, Athro Blwyddyn 6 yn yr ysgol fuddugol St Thomas, 'Mae Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas wedi bod yn gefnogwr cyson i Theatr na nÓg ers blynyddoedd lawer. Mae ansawdd a phroffesiynoldeb y cynyrchiadau yn aruthrol ac yn sicr maent yn rhoi cyfle mor werthfawr i’n dysgwyr. Oherwydd yr ansawdd anhygoel, fe benderfynon ni drefnu ein cwricwlwm o amgylch y sioe gan ganolbwyntio ar bob maes dysgu. Roedd y gwaith a gynhyrchwyd gan y plant yn rhyfeddol ac roeddem am ddathlu trwy gymryd rhan yng nghystadleuaeth Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies. Roedd hyn yn ffordd o ddiolch i bawb a Theatr na nÓg trwy ddangos yr effaith ffantastig mae eu sioeau yn ei gael ar ddysgwyr.'
Yr enillwyr blaenorol yw Ysgol Gynradd Creunant yn 2019, Ysgol Gynradd Cwmafan yn 2020, ac yn fwyaf diweddar Ysgol Gynradd Blaenymaes yn 2023.
Y beirniaid eleni oedd ffrind agos Carolyn Davies a’i chyn cydweithiwr Sandra Morgan, Stuart Harries o Carr Jenkins & Hood, Phil Treseder o Amgueddfa Abertawe, Luke Clement o Technocamps, a Steph Mastoris a Leisa Williams o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau oedd yn cynnal y Seremoni.
Wrth esbonio pam fod Carr Jenkins & Hood yn parhau i noddi'r wobr, dywedodd y Cyfarwyddwr Stuart Harries 'Rydym wedi bod â pherthynas hirsefydlog gyda Theatr na nÓg ers dros 30 mlynedd. Mae'n braf ein bod yn gallu cefnogi plant mewn ysgolion yn y gymuned leol drwy sefydliad ffantastig fel Theatr na nÓg.'
Mae’r ysgol fuddugol, Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas, yn derbyn Tlws Gwobr Carolyn Davies, gwobr ariannol o £250 a roddwyd gan Carr Jenkins & Hood, yn ogystal â gweithdai am ddim gyda Technocamps ac ymweliad â Phwll Mawr a roddwyd yn garedig gan Amgueddfa Cymru. Yn ail a thrydydd, bydd Ysgol Gynradd Blaenymaes ac Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant yn derbyn £150 a £100, yn y drefn honno.
Dylai ysgolion sydd am gystadlu am Wobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2025 ymweld â chynhyrchiad newydd Theatr na nÓg, The Fight, yn yr Hydref a chyflwyno fideo yn arddangos eu gwaith creadigol.
DIWEDD