Ar ôl amser prysur iawn dros 'Dolig, mae Cadi ac Arwel am ymlacio. Mae Cadi'n ceisio clirio'i meddwl a'i chorff o’r straen i gyd tra bod Arwel yn dod yn gyfarwydd gyda'i enwogrwydd newydd ar ôl Antur yr Adfent.
Felly ymunwch gyda nhw i weld beth fydd eu hantur nesaf nhw.

Mae hyn yn gyd-gynhyrchiad gyda Y Neuadd Les Ystradgynlais a Theatr na nÓg ac mae'r gyfres llawn ar gael nawr!
Mae 3 pennod i wylio isod.
Darperir y cynnwys yma yn rhad ac am ddim. Mae Theatr na nÓg yn elusen gofrestredig a chroesewir rhoddion er mwyn sicrhau y gallwn barhau i greu cynnwys a chynyrchiadau i bob oed eu mwynhau.
Mae ffyrdd o gyfrannu a thelerau ac amodau llawn i'w gweld yma