Fel gwirfoddolwr yn St Bevan’s Hospital Radio mae gan DJ Dani Walkman y swydd orau yn y byd i gyd, oherwydd mae'n credu bod gan bawb gân i'w chanu.
Hynny yw, nes iddo gwrdd â Peggy, claf ar Ward East 5, sy'n ei droelli o amgylch ei bys bach wrth iddo geisio dyfalu ei chân arbennig hi.
Mewn cyfieithiad newydd gan Jeremi Cockram, mae’r ddrama gynnes hon, gan Katherine Chandler, yn lythyr cariad at y GIG ac i bawb sy’n gwirfoddoli yn y gwasanaeth.
Wedi'i chomisiynu'n wreiddiol gan National Theatre Wales, bydd y sioe dwymgalon hon a berfformir gan Dion Davies, a'i chyfarwyddo gan Phil Clark a Christian Patterson yn codi'ch ysbryd ac yn ailddatgan eich ffydd mewn pobl.
Mae’r cynhyrchiad hwn yn dathlu menter newydd, sef y Consortiwm Cymraeg. Mae'r Consortiwm yn cynnwys partneriaeth rhwng cwmni cynhyrchu Theatr na nÓg a thair canolfan yng Nghymoedd y de - Theatr Soar, Neuadd Les Ystradgynlais a Neuadd y Dref Maesteg.