Cafodd Dion ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd ond mae bellach yn byw yn Llandeilo gyda'i wraig Ifana a'i fab Daniel.
Dechreuodd Dion actio pan yn blentyn a chafodd ei gastio yn Snow Spider ITV ym 1988 pan oedd yn 13 oed.
Dechreuodd Dion ei yrfa fel actor proffesiynol ar ôl graddio o Goleg y Drindod Dewi Sant ym 1997 gyda BA mewn Theatr, Cyfryngau a Cherddoriaeth ac yn dilyn hyn cwblhaodd Dion ddiploma mewn Actio yn 2001.
Mae Dion wedi gweithio gyda chwmnïau theatr a theledu amrywiol ers 1997.
Mae rhai o gredydau ffilm a theledu Dion yn cynnwys: Solomon a Gaenor; Petroleum Spirit; Under Milk Wood; Torchwood a Indian Doctor (BBC); Stella (SKY 1); Y Pris, Tair Chwaer, Amdani, Y Glas, Rownd a Rownd, Pethau Bychain, Hyd Y Pwrs (S4C).
Efallai bydd gwylwyr iau hefyd adnabod Dion o: Jen a Jim Pob Dim; Cymylau Bychain; Y Doniolis; Ditectifs Hanes; P’nawn Da Bawb (S4C).
Mae rhai o gredydau theatr Dion yn cynnwys: Y Gelyn Cudd; Kapow; Me a Giant, Aesop’s Fables; ac Yr Arandora Star (Theatr na nÓg); A Child’s Christmas in Wales; A Christmas Carol and Servant of Two Masters (Wales Theatr Company); Mae Dion hefyd wedi gweithio ar sawl panto gyda Dafydd Hywel (Cwmni Mega) a Martyn Geraint; Mae Dion yn wyneb cyfarwyddwr yn Theatr y Torch, gan iddo chwarae rôl y ‘Dame’ yn y Panto Nadolig er 2010; One Flew Over the Cuckoo's Nest a One Man, Two Guv’nors (Torch Theatre).
Mae gan Dion brofiad o ysgrifennu sioeau teledu a sgetsys i blant. Mae gan Dion hefyd ystod eang o gredydau drama radio a throsleisio.
Mae Dion yn falch o gael ei gydnabod fel actor cyswllt yn Theatr y Torch a Theatr na nÓg.
Mae Dion wrth ei fodd â ffilmiau a phob math o chwaraeon a'i hoff dîm pêl-droed yw Liverpool FC .... YNWA!