Ysgrifennwyd gan Geinor Styles gyda cherddoriaeth a geiriau gan Amy Wadge, wedi'i gyfieithu gan Gwawr Loader.

Sioe gerdd arobryn am ddilyn stormydd a newid y byd

Dewch i gwrdd ag Emmie Price.

Bu’r 5 mlynedd ddiwethaf yn rhai stormus iddi. Mae ei byd yn cynnwys edrych ar ôl ei mam, sy’n dioddef o anhwylder deubegynol, dilyn diddordeb angerddol mewn corwyntoedd a gwneud yn sicr ei bod yn llwyddo yn yr ysgol. Ond, gwyr Emmie, un diwrnod y bydd popeth yn newid. Un diwrnod, mi fydd hi’n dilyn stormydd. . . yn America.

Pan fydd cyfle’n codi i dderbyn bwrsari i astudio yn UDA, a all hi gadw’i lle ar y cwrs ac ennill y gystadleuaeth STEM gyda’i dyfais newydd ar gyfer ynni adnewyddadwy?

Lleolir y ddrama yng Nghymoedd Cymru ac mae iddi gerddoriaeth fywiog, sy’n tynnu ar elfennau Americana gan yr enillydd Gwobrau Grammy, Amy Wadge (Thinkin' Out Loud gydag Ed Sheeran, Un Bore Mercher) ac sydd yn cael ei pherfformio’n fyw, ar lwyfan gan gast o 7 o actorion a cherddorion dawnus.

 

Perfformiadau Cymraeg ym mis Medi 2025 - perfformiadau Saesneg ym mis Hydref 2025

 

Cliciwch yma am archebion i ysgolion

 

Tocynnau ar gael trwy TicketSource isod - neu cliciwch yma

An A* top of the class new musical
Buzz Magazine, 2019

Cast i'w gyhoeddu

Cynhyrchiad
Geinor Styles
Cyfarwyddydd ac Awdur
Amy Wadge
Cerddoriaeth & Geiriau
Carl Davies
Dylunydd
Mike Beer
Cynllunydd Sain
Ceri James
Dylunydd AV
Elanor Higgins
Dylunydd Goleuadau
Barnaby Southgate
Cyfarwyddwr & Threfnydd Cerdd
Gwawr Loader
Cyfieithydd
Millie Else
Design Assistant
Nia James
Rheolwr Llwyfan
Felicity Bulbulia
Rheolwr Llwyfan
Cefnogwyr