Hyfforddwyd Llinos ym Mhrifysgol Royal Holloway yn Llundain a Webber Douglas Academy of Dramatic Art.
Credydau teledu yn cynnwys: Hinterland / Y Gwyll (Hinterland Films), Zanzibar, Emyn Roc a Rôl (S4C), Pobol y Cwm, Stepping Up, Torchwood a Not Getting Any (BBC).
Mae Llinos wedi teithio’n helaeth ledled America fel unawdydd a thelynores gyda Chorws Meibion y Mynydd Du - mae ei halbymau’n cynnwys ‘Themes & Dreams of Wales’.
Credydau Theatr yn cynnwys: National Theatre Wales, Vienna’s English Theatre, Wales Theatre Company, Theatr Clwyd, Lighthouse Theatre yn Ne America a Sherman Theatre.
Mae hi wedi perfformio’n helaeth gyda Theatr na nÓg ar sawl cynhyrchiad yn cynnwys The Butterfly Hunter, Ysbryd y Pwll, Salsa a gyda Eye of the Storm yn Hong Kong a thaith ledled y DU.
Chwaraeodd Llinos y fam yn A Prayer for Wings a gyfarwyddwyd gan Sean Mathias yn y King’s Head Theatre, Llundain.
Yn ystod y cyfnod cloi, recordiodd Llinos benodau sain wythnosol o Aberystwyth Mon Amour gyda Lighthouse Theatre fel llais Myfanwy Montez. Roedd hi hefyd yn ymwneud a llawer o brosiectau gyda Theatr na nÓg gan gynnwys Antur yr Adfent a Goslef.
Yn ddiweddar, mae Llinos wedi ymddangos yn Hamlet a The Cherry Orchard yn y Theatre Royal, Windsor gyda Syr Ian Mckellen.