Cerddor ffrilans yw Jak Poore sydd wedi bod yn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer theatr am dros 20 mlynedd.
Mae Jak yn offerynnwr talentog sy’n chwarae nifer o offerynnau gyda repertoire eang o allu cerddorol a steiliau. Ganwyd Jak yng nghanolbarth Cymru ac astudiodd Offerynnau Taro yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru cyn astudio Cyfansoddiad a Pherfformiad yr 20fed Ganrif Mhrifysgol Salford. Mae rhai o’r cwmnïau Theatr y mae e wedi gweithio gyda hwy yn cynnwys Sherman Theatr, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Cascade Dance Co, Theatr Iolo, Birmingham Stage Company, Theatr Clwyd, Canolfan Mileniwm Cymru, West Yorkshire Playhouse, National Youth Theatre of Great Britain, Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr na nÓg. Cafodd ei gerddoriaeth ei glywed yn Efrog Newydd ar ddechrau 2011, mewn cynhyrchiad Birmingham Stages o ‘Skellig’ gan David Almond yn y New Victory Theatre ar Broadway ac yn fwy diweddar teithiau'r DU ar gyfer 'Awful Auntie' a hefted 'Gangsta Granny' (drosglwyddwyd i’r west end yn 2017).