Hyfforddwyd Llinos yn Royal Holloway University of London a Webber Douglas Academy of Dramatic Art. Credydau Teledu yn cynnwys: Wolf (Hartswood Films), Y Golau/The Light in the Hall (Duchess St. Productions/Triongl), Hinterland/Y Gwyll (Hinterland Films), Zanzibar, Emyn Roc a Rôl (S4C), Pobol y Cwm, Stepping Up, Torchwood a Not Getting Any (BBC). Mae Llinos wedi teithio'n helaeth o amgylch America fel unawdydd a telynores gyda Black Mountain Chorus - mae ei halbymau yn cynnwys Themes & Dreams of Wales.
Credydau Theatr yn cynnwys: National Theatre Wales, Vienna’s English Theatre, Wales Theatre Company, Theatr Clwyd, Lighthouse Theatre yn Ne America a Sherman Theatre. Mae wedi perfformio'n aml gyda Theatr na nÓg ar nifer o gynyrchiadau yn cynnwys The Butterfly Hunter, The Ghost of Morfa Colliery, Salsa ac Eye of the Storm yn Hong Kong ac ar daith o amgylch y DU. Bu Llinos yn chwarae'r fam yn 'A Prayer for Wings' wedi'i cyfarwyddo gan Sean Mathias yn y King’s Head Theatre, Llundain. Yn ddiweddar, gweithiodd gyda Sir Ian McKellen ar Hamlet & The Cherry Orchard yn Theatre Royal, Windsor - hefyd wedi'i cyfarwyddo gan Sean Mathias.
Mae Llinos newydd orffen ar sioe gerdd newydd Theatr na nÓg, Operation Julie, fel cyfarwyddwr o dan hyfforddiant gyda Geinor Styles. Mae hi hefyd yn Artist Cysylltiol gyda'r cwmni. Mae hi hefyd wedi cyfarwyddo 'You Should Ask Wallace' gyda'r cwmni yn ddiweddar.
Bydd Llinos yn ymddangos yn ffilm newydd 'Hamlet', gyda Sir Ian Mckellen yn chwarae'r brif rhan, yn y misoedd nesaf.