Mae Tom yn Actor Cymraeg ei iaith sydd ar fin symud i fyw yn Toronto am gyfnod. Graddiodd o Mountview yn Llundain yn 2010. Gweithiodd yn gyntaf i Theatr na nÓg yn 2013 ar ‘Preparing to be hired’. Ers hynny mae Tom wedi gweithio ar 'Anturiaethau Anghygoel Wallace a Bates' ac 'Y Naid' i'r cwmni, yn ogystal â nifer o brosiectau ar-lein a phrosiectau ymchwil a datblygiad.
Mae ei waith Theatr arall yn cynnwys The Ugly Duckling / Yr Hwyaden Fach Hyll (Theatr Sherman), 2023 (Illumine Theatre / Chapter Arts), Slip Stones a La Ou Volent Les Feuilles (Arad Goch), Mimosa a Somewhere in England (Clwyd Theatr Cymru), The Big City (The Cockpit Theatre).
Mae ei gredydau teledu yn cynnwys Rownd a Rownd, Merched Parchus, JAM a BEXTRA (S4C), Will (TNT), American Monster (Discovery Channel) Doctors a Casualty (BBC).
Mae Tom wedi bod yn ysgrifennu ar gyfer rhaglen teledu ar S4C yn ddiweddar gyda syniadau eraill yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Mae e hefyd wedi dechrau cyfarwyddo yn ddiweddar – yn gweithio ar gynhyrchiad Y NAID gyda’r cwmni. Mae'n falch iawn i fod yn artist cyswllt gyda Theatr na nÓg ac mae'n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o fersiwn iaith Gymraeg cyntaf o ddrama mor eiconig.