Mae Mia yn actores newydd raddedig o Gaerdydd. Buodd hi’n astudio BA Perfformio yn WAVDA yng Nghaerdydd (2021 - 2023). Aeth hi ymlaen i astudio MA mewn actio yn LIPA yn Lerpwl (2023-24). Mae ganddi brofiad helaeth o berfformio, canu a dawnsio ers yn blentyn ac yn frwdfrydig iawn wrth edrych ymlaen at y dyfodol. Mae hi’n dysgu drama i blant yn ABC Caerdydd ac ABC y Fro yn wythnosol ac wrth ei bodd  yn eu cwmni. Rhai o’i hoff rhannau wrth astudio oedd Eve mewn cynhyrchiad o Her Naked Skin, Polonius yn Hamlet a Nora yn Nora: A Dolls House.